Hawlio lwfansau cyfalaf
Yr uwch-ddidyniad a’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%
Dim ond cwmnïau sy’n gallu hawlio’r uwch-ddidyniad a lwfansau blwyddyn gyntaf dros dro ar y gyfradd arbennig o 50%.
Gallwch eu hawlio yn erbyn cost mathau penodol o offer a pheiriannau. Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol i’r offer a pheiriannau:
- cawsant eu prynu o 1 Ebrill 2021 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023
- maen nhw’n newydd a heb gael eu defnyddio
- nid ydynt yn gar
Ni allwch hawlio’r ddau lwfans yn erbyn yr un gwariant.
Yr hyn y gallwch ei gael
Mae’r uwch-ddidyniad yn gadael i chi ddidynnu hyd at 130% o’r gost oddi wrth eich elw cyn treth.
Mae’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% yn gadael i chi ddidynnu 50% o’r gost oddi wrth eich elw cyn treth.
Gwirio a allwch hawlio
Gwiriwch a allwch hawlio’r uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%.
Gallwch hawlio ar Ffurflen Dreth y Cwmni.