Hawlio lwfansau cyfalaf
Trosolwg
Mae lwfansau cyfalaf yn fath o ryddhad treth i fusnesau. Maent yn gadael i chi ddidynnu rywfaint neu’r cyfan o werth eitem oddi wrth eich elw cyn i chi dalu treth.
Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer:
- cyfarpar
- peiriannau
- cerbydau busnes, er enghraifft faniau, lorïau neu geir busnes
Gelwir y rhain yn ‘offer a pheiriannau’.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod gennych incwm o £150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o’r enw’r sail arian parod (yn Saesneg) yn lle hynny.
Mathau o lwfansau cyfalaf ar gyfer offer a pheiriannau
Gallwch hawlio gwahanol symiau, yn dibynnu ar ba lwfans cyfalaf a ddefnyddiwch.
Y lwfansau cyfalaf (a elwir hefyd yn lwfansau offer a pheiriannau) yw:
- lwfans buddsoddi blynyddol (LBB) – gallwch hawlio hyd at £1 filiwn ar gyfer offer a pheiriannau penodol
- lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% – gallwch hawlio’r swm cyfan ar gyfer offer a pheiriannau penodol yn y flwyddyn y cawsant eu prynu
- yr uwch-ddidyniad neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50% – gallwch hawlio’r rhain ar gyfer offer a pheiriannau penodol a brynwch o 1 Ebrill 2021 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2023
- lwfansau ar bapur (yn Saesneg) – gallwch hawlio’r rhain os nad yw’ch offer na’ch peiriannau’n gymwys ar gyfer LBB neu os ydych eisoes wedi hawlio’r uchafswm
Os yw eitem yn gymwys ar gyfer mwy nag un lwfans cyfalaf, gallwch ddewis pa un i’w ddefnyddio.
Cyfrifo gwerth eich eitem
Yn y rhan fwyaf o achosion, y gwerth yw’r hyn a dalwyd gennych am yr eitem. Defnyddiwch y gwerth marchnadol (y swm y byddech yn disgwyl ei werthu amdano) yn lle hynny os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- roeddech yn berchen arno cyn i chi ddechrau ei ddefnyddio yn eich busnes
- roedd yn rhodd
Costau busnes eraill
Rydych yn hawlio cost pethau nad ydynt yn asedion busnes mewn ffordd wahanol. Mae hyn yn cynnwys:
- costau rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd
- eitemau rydych yn eu prynu a’u gwerthu fel rhan o’ch masnach
- taliadau llog neu gostau cyllid am brynu asedion
Hawliwch y costau hyn fel treuliau busnes (yn Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, neu didynnwch y costau oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.
Lwfansau cyfalaf eraill
Yn ogystal ag offer a pheiriannau, gallwch hefyd hawlio lwfansau cyfalaf am:
- adnewyddu safle’r busnes (yn Saesneg) mewn ardaloedd difreintiedig yn y DU
- echdynnu mwynau (yn Saesneg)
- ymchwil a datblygu (yn Saesneg)
- gwybodaeth arbenigol (yn Saesneg) (eiddo deallusol (yn Saesneg) am dechnegau diwydiannol)
- hawliau patent (yn Saesneg)
- lwfansau carthu (yn Saesneg)
- strwythurau ac adeiladau
Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod
Dim ond os yw’ch busnes yn gymwys fel busnes llety gwyliau wedi’i ddodrefnu y gallwch gyflwyno hawliad am eitemau i’w defnyddio mewn eiddo preswyl. Ym mhob blwyddyn mae’n rhaid i’r eiddo fod:
- ar gael i gael ei osod fel llety gwyliau am 210 diwrnod
- ar osod am 105 diwrnod neu fwy