Canllawiau

Hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer strwythurau ac adeiladau

Os ydych yn adeiladu, yn prynu neu’n prydlesu strwythur, a chafodd pob un contract adeiladu ei arwyddo ar neu ar ôl 29 Hydref 2018, efallai y gallwch hawlio rhyddhad treth.

Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad treth y lwfans strwythurau ac adeiladau bob blwyddyn ar arian penodol rydych yn ei wario. Gall y lwfans hwn bara am y cyfnod lwfans cyfan.

Rhaid eich bod wedi talu rhywfaint o’r costau tuag at brynu, adeiladu neu adnewyddu’r strwythur, neu’r costau cyfan.

Rhaid i bob contract adeiladu fod wedi’i arwyddo ar neu ar ôl 29 Hydref 2018, a rhaid i’r strwythur fodloni’r gofynion canlynol:

  • ni chafodd ei ddefnyddio fel preswylfa y tro cyntaf iddo gael ei ddefnyddio, nac yn ystod y cyfnod yr ydych yn hawlio ar ei gyfer
  • mae’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd cymwys
  • mae ganddo ddatganiad lwfans

Os ydych yn hawlio’r lwfans hwn ac mae’r strwythur yn cael ei werthu neu ei ddymchwel, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Enillion Cyfalaf neu Dreth Gorfforaeth nag arfer. Dylech wirio a yw hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau yn addas i chi.

Cyfraddau a chyfnod lwfans perthnasol

Y gyfradd berthnasol ar gyfer y lwfans strwythurau ac adeiladau

Treth Gorfforaeth Cyfradd
29 Hydref 2018 hyd at 31 Mawrth 2020 2%
1 Ebrill 2020 ac ymlaen 3%
Treth Incwm Cyfradd
29 Hydref 2018 hyd at 5 Ebrill 2020 2%
6 Ebrill 2020 ac ymlaen 3%

Y cyfnod lwfans

Y cyfnod lwfans yw’r cyfnod pan fo gan berson hawl i hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau mewn perthynas â gwariant perthnasol, cyn belled â bod y person yn bodloni’r holl amodau gofynnol.

Mae’r cyfnod lwfans yn para 33 a thraean o flynyddoedd o ddyddiad dechrau’r cyfnod lwfans.

Dyddiad dechrau’r cyfnod lwfans yw’r hwyraf o’r canlynol:

  • y dyddiad y defnyddiwyd yr adeilad at ddiben dibreswyl gyntaf
  • dyddiad y gwariant cymwys

Yr hyn y mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r strwythur ar ei gyfer

Rhaid i’r strwythur gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau cymwys, sy’n drethadwy yn y DU.

Mae gweithgareddau cymwys yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw fasnachau, proffesiynau a galwedigaethau
  • busnes eiddo yn y DU neu fusnes eiddo tramor (ar wahân i eiddo preswyl a llety gwyliau wedi’i ddodrefnu)
  • rheoli buddsoddiadau cwmni
  • mwyngloddio, chwarela, pysgota a masnachau eraill ar y tir, megis rhedeg rheilffyrdd a thollffyrdd

Yr hyn y gallwch hawlio’r lwfans arno

Os gwnaethoch dalu dros y gwerth marchnadol am strwythur neu ei gostau adeiladu, byddwch yn gallu hawlio’r gwerth marchnadol gwreiddiol yn unig.

Gallwch dim ond hawlio costau adeiladu sy’n cynnwys y canlynol:

  • ffioedd ar gyfer cynllunio
  • paratoi’r safle ar gyfer adeiladu
  • gwaith adeiladu
  • costau adnewyddu, atgyweirio a throsi
  • gwaith dodrefnu

Os ydych yn adeiladu neu’n adnewyddu strwythur

Gallwch hawlio’r swm a wariwyd gennych ar gostau adeiladu, hyd yn oed os ydych yn prydlesu’r strwythur gan rywun arall.

Os ydych yn prynu strwythur gan ddatblygwr

Os ydych yn prynu’r strwythur, heb ei ddefnyddio, gan ddatblygwr, gallwch hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau ar y pris y gwnaethoch dalu i’r datblygwyr, ar ôl didynnu eitemau na allwch hawlio ar eu cyfer.

Os cafodd y strwythur ei werthu gan ddatblygwr, ei werthu mwy nag unwaith a chi yw’r person cyntaf i’w ddefnyddio, gallwch hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau ar beth bynnag yw’r pris isaf o’r canlynol:

  • y pris y gwnaethoch dalu i’r datblygwr pan wnaeth ei werthu
  • y pris y gwnaethoch dalu am y strwythur

Os ydych yn prynu strwythur, wedi’i ddefnyddio, gan ddatblygwr, gallwch hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau ar gostau adeiladu’r datblygwr.

Os ydych yn prynu strwythur gan rywun sydd ddim yn ddatblygwr

Os ydych yn prynu’r strwythur, heb ei ddefnyddio, gan rywun sydd ddim yn ddatblygwr, ar ôl didynnu eitemau na allwch hawlio ar eu cyfer, gallwch hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau ar y pris isaf o’r canlynol:

  • y pris y gwnaethoch dalu am y strwythur
  • y gost adeiladu wreiddiol

Os ydych yn prynu strwythur, wedi’i ddefnyddio, gan rywun sydd ddim yn ddatblygwr, gallwch hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau ar yr un swm yr oedd gan y perchennog blaenorol hawl i’w hawlio.

Os oedd y perchennog blaenorol yn gallu hawlio lwfans ymchwil a datblygu, gallwch hawlio am yr hyn sy’n weddill o’r cyfnod lwfans. Ond, ni allwch hawlio am fwy na’r swm y gwnaethoch dalu am y strwythur.

Yr hyn na allwch ei hawlio

Ni allwch hawlio’r canlynol:

  • costau ar gyfer unrhyw breswylfa neu strwythur wedi’u lleoli ar dir preswyl
  • costau sydd hefyd yn gymwys ar gyfer lwfansau offer a pheiriannau
  • costau yr ydych eisoes wedi’u defnyddio er mwyn hawlio lwfans arall
  • costau ar gyfer eitemau eraill sydd yn rhan o bris y strwythur, megis, tir, nodweddion a darnau gosod hanfodol
  • costau ar gyfer caniatâd cynllunio
  • costau ar gyfer ariannu, megis benthyciadau
  • costau ar gyfer ymholiadau cyhoeddus neu dreuliau cyfreithiol
  • costau ar gyfer tirlunio gardd neu adennill tir
  • costau pan gawsoch rodd neu gyfraniad

Sut i hawlio

Mae’n rhaid i chi hawlio ar eich Ffurflen Dreth.

Bydd angen datganiad lwfans arnoch ar gyfer y strwythur. Os mai chi yw’r person cyntaf i ddefnyddio’r strwythur, rhaid i chi greu datganiad lwfans ysgrifenedig cyn i chi allu hawlio.

Rhaid i’ch datganiad lwfans gynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth sy’n dynodi’r strwythur, megis cyfeiriad a disgrifiad
  • y dyddiad ar gyfer y contact adeiladu ysgrifenedig cynharaf
  • cyfanswm y costau cymwys
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau defnyddio’r strwythur at ddiben gweithgaredd nad yw’n weithgaredd preswyl

Os ydych yn prynu strwythur wedi’i ddefnyddio, gallwch dim ond hawlio’r lwfans os oes gennych gopi o’r datganiad lwfans gan berchennog blaenorol.

Yn achos unrhyw estyniadau neu adnewyddiadau a gwblhawyd ar ôl i chi ddechrau defnyddio’r strwythur, gallwch gofnodi costau adeiladu ar wahân ar y datganiad lwfans, neu greu datganiad lwfans newydd.

Bydd yn rhaid i chi gadw gwybodaeth am y contractau adeiladu cynharaf yn eich cofnodion. Gallwch ddefnyddio pethau megis contractau ffurfiol, e-byst neu nodiadau o gyfarfodydd Bwrdd.

Dewis dyddiad dechrau’ch hawliad

Dechreuwch eich hawliad o ba bynnag ddyddiad sydd hwyrach o’r canlynol:

  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau defnyddio’r strwythur ar gyfer gweithgaredd cymwys
  • y dyddiad pan fo’n rhaid i chi dalu am y strwythur neu’r adeiladu

Gallwch ddewis grwpio costau cymwys ychwanegol at ei gilydd a dechrau’ch hawliad am y costau hyn ar ddiwrnod cyntaf eich cyfnod cyfrifyddu nesaf.

Pa mor hir y gallwch hawlio’r lwfans

Gallwch ddechrau hawlio ar gyfer y cyfnod lwfans cyfan, gan ddechrau o ba bynnag un o’r canlynol sydd hwyraf:

  • y dyddiad y mae’r strwythur yn cael ei ddefnyddio at ddiben dibreswyl
  • y dyddiad y codir y gwariant cymwys

Gallwch barhau i hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau am weddill y cyfnod lwfans, os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn prynu strwythur gan berson arall sydd eisoes wedi hawlio
  • rydych yn defnyddio’r strwythur ar gyfer gweithgaredd cymwys
  • nid yw’r strwythur ar gael i’w ddefnyddio yn dilyn cyfnod y gwnaethoch ei ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd cymwys

Os yw’ch prydles am 35 mlynedd neu fwy

Os oes gan y person rydych yn prydlesu’r strwythur ganddo gostau cymwys, gallwch hawlio’r lwfans strwythurau ac adeiladau am weddill y cyfnod lwfans. Er mwyn gwneud hyn, mae’n rhaid i werth ei fuddiant yn y strwythur fod yn llai na thraean o’r cyfalaf y gwnaethoch dalu amdano.

Gallwch barhau i hawlio’r lwfans os ydych wedi cymryd rheolaeth dros brydles rhywun arall o fewn y cyfnod lwfans.

Os nad yw unrhyw un o’r sefyllfaoedd hyn yn gymwys, gall y prydleswr hawlio’r lwfans sy’n weddill.

Pryd y gall eich lwfans gael ei addasu

Mae’ch lwfans yn cael ei addasu os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’ch cyfnod cyfrifyddu yn fwy neu’n llai na blwyddyn
  • ni fodlonir pob amod ar bob diwrnod o’ch cyfnod cyfrifyddu
  • mae’ch hawl yn dod i ben yn ystod eich cyfnod cyfrifyddu
  • mae’r strwythur yn cael ei ddefnyddio am fwy nag un gweithgaredd

Gall y lwfans gael ei ostwng neu ei gynyddu yn dibynnu ar nifer y diwrnodau yn eich cyfnod cyfrifyddu.

Os ydych yn gwerthu’r strwythur

Pan fyddwch yn gwerthu neu’n gwaredu’r strwythur, bydd eich lwfansau’n dod i ben. Dylech roi copi o’r datganiad lwfans i’r perchennog newydd fel y gall hawlio unrhyw lwfansau sydd ar ôl.

Os yw’r strwythur yn cael ei werthu, ei ddymchwel neu ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth sydd ddim yn weithgaredd cymwys, bydd eich hawliad yn dod i ben.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o Dreth Enillion Cyfalaf neu Dreth Gorfforaeth. Mae hyn oherwydd bod yn rhaid i chi ychwanegu cyfanswm y lwfans strwythurau ac adeiladau yr ydych wedi’i hawlio at eich derbynebau gwaredu er mwyn cyfrifo’ch enillion neu’ch colledion cyfalaf.

Sut mae’r gyfradd lwfans gwerth 3% yn gweithio

Os yw’ch busnes yn destun Treth Gorfforaeth

Gallwch hawlio 3% y flwyddyn o 1 Ebrill 2020 ymlaen ar gostau cymwys, a bydd cyfnod y lwfans yn dod i ben 33 mlynedd a thraean ar ôl yr hwyraf o’r canlynol:

  • y dyddiad daeth y strwythur i ddefnydd dibreswyl am y tro cyntaf
  • y dyddiad y codir y gwariant cymwys

Os yw’ch busnes yn agored i Dreth Incwm

Gallwch hawlio 3% y flwyddyn o 1 Ebrill 2020 ymlaen ar gostau cymwys, a bydd cyfnod y lwfans yn dod i ben 33 mlynedd a thraean ar ôl yr hwyraf o’r canlynol:

  • y dyddiad daeth y strwythur i ddefnydd dibreswyl am y tro cyntaf
  • y dyddiad y codir y gwariant cymwys

Os yw’ch cyfnod trethadwy ar gyfer lwfansau cyfalaf yn dechrau cyn 1 Ebrill neu 6 Ebrill, dylech ddosrannu’r cyfnod a hawlio 2% y flwyddyn ar gyfer pob diwrnod cyn 1 Ebrill neu 6 Ebrill, a 3% y flwyddyn ar gyfer pob diwrnod ar neu ar ôl hynny.

Enghraifft

Gwnaethoch adeiladu ffatri sy’n costio £900,000. Ymrwymwyd i bob contract ar gyfer gwaith ar 7 Ionawr 2019.

Cwblhawyd y ffatri ar 21 Tachwedd 2019 a gwnaethoch ddechrau ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes peirianneg o 1 Rhagfyr 2019 ymlaen. Rydych yn paratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr.

Yn eich cyfnod trethadwy hyd at 31 Rhagfyr 2020, gallwch hawlio 2% y flwyddyn am 96 diwrnod o 1 Ionawr 2020 i 5 Ebrill 2020, a 3% y flwyddyn am 270 diwrnod o 6 Ebrill 2020 i 31 Rhagfyr 2020.

96/366 × £900,000 × 2% = £4,722

Plws 270/366 × £900,000 × 3% = £19,919

Cyfanswm yr hawliad yw £24,641 ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben ar 31 Rhagfyr 2020.

Cadwch nodyn o’r holl ddyddiau y gwnaethoch hawlio’r gyfradd 2% ar eu cyfer yn ystod y cyfnod hwn neu gyfnod cynharach. Os nad ydych yn gwerthu na’n gwaredu’r strwythur cyn pen 33 mlynedd a thraen o’r adeg pan gafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf, gallwch hawlio unrhyw ddiffyg mewn lwfansau ar ddiwedd yr amser hwnnw.

Cyhoeddwyd ar 15 August 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 September 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. Information about applicable rates and the allowance period has been added.

  3. The capital allowance rate changed to 3% in April 2020.

  4. First published.