Hawlio lwfansau cyfalaf
Sut i hawlio
Hawliwch lwfansau cyfalaf ar eich:
- Ffurflen Dreth Hunanasesiad os ydych yn unig fasnachwr
- Ffurflen Dreth Partneriaeth os ydych yn bartneriaeth
- Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn gwmni cyfyngedig - mae’n rhaid i chi gynnwys cyfrifiad lwfansau cyfalaf ar wahân
Mae’n rhaid i gyflogeion hawlio mewn ffordd wahanol.
Os ydych wedi defnyddio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg), bydd angen i chi gyfrifo faint y gallwch ei hawlio, yn seiliedig ar y gronfa y mae’ch eitem ynddi.
Caiff y swm y gallwch ei hawlio ei ddidynnu oddi wrth eich elw.
Pryd y gallwch hawlio
Mae’n rhaid i chi hawlio yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y gwnaethoch brynu’r eitem os ydych yn dymuno hawlio:
- lwfans buddsoddi blynyddol
- lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
- uwch-ddidyniad neu lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig
- gwariant llawn a lwfans blwyddyn gyntaf o 50%
- lwfans blwyddyn gyntaf o 40%
Os nad ydych am hawlio’r gwerth llawn fel lwfans buddsoddi blynyddol neu lwfans blwyddyn gyntaf, gallwch hawlio rhan ohono gan ddefnyddio lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg). Gallwch wneud hyn unrhyw bryd, cyn belled â’ch bod yn dal i fod yn berchen ar yr eitem.
Pryd y gwnaethoch ei phrynu
Y dyddiad y gwnaethoch ei phrynu yw:
- pan wnaethoch lofnodi’r contract, os yw’r taliad yn ddyledus cyn pen llai na 4 mis
- pan fydd y taliad yn ddyledus, os yw’n ddyledus fwy na 4 mis yn hwyrach
Os ydych chi’n prynu rhywbeth o dan gontract hurbwrcas, pan fyddwch yn dechrau defnyddio’r eitem, gallwch hawlio am yr holl daliadau y byddwch chi’n eu gwneud o dan y contract. Ni allwch hawlio ar y taliadau llog.