Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Marchnata, adloniant a thanysgrifiadau
Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:
-
hysbysebu mewn papurau newydd neu gyfeirlyfrau
-
hysbysebu mewn swmp ar un tro (ymgyrch bostio)
-
samplau yn rhad ac am ddim
-
costau gwefan
Ni allwch hawlio ar gyfer:
-
gwesteia cleientiaid, cyflenwyr a chwsmeriaid
-
lletygarwch ar gyfer digwyddiadau
-
rhoddion, gan amlaf
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Tanysgrifiadau
Gallwch hawlio ar gyfer costau fel:
-
cylchgronau masnach neu gylchgronau proffesiynol
-
aelodaeth â chorff masnachol neu sefydliad proffesiynol, os yw’n gysylltiedig â’ch busnes
Ni allwch hawlio ar gyfer:
-
taliadau i bleidiau gwleidyddol
-
ffioedd aelodaeth â champfa
-
cyfraniadau i elusen – fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu hawlio ar gyfer taliadau nawdd (yn agor tudalen Saesneg)
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).