Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Ailwerthu nwyddau
Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:
-
nwyddau i’w hailwerthu (stoc)
-
deunyddiau crai
-
costau uniongyrchol o gynhyrchu nwyddau
Ni allwch hawlio ar gyfer:
-
unrhyw nwyddau neu ddeunyddiau a brynwyd at ddibenion preifat
-
dibrisiad offer
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).