Trosolwg

Mae Treth Enillion Cyfalaf yn dreth ar yr elw pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’) rhywbeth (‘ased’) y mae ei werth wedi cynyddu.

Yr enillion a wnewch sy’n cael eu trethu, nid swm yr arian a gewch. Er enghraifft, os gwnaethoch brynu llun am £5,000 a’i werthu’n nes ymlaen am £25,000, rydych wedi gwneud enillion o £20,000 (£25,000 llai £5,000).

Mae rhai asedion yn rhydd o dreth. Hefyd, does dim rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os yw’ch holl enillion mewn blwyddyn o dan eich lwfans rhydd o dreth.

Os gwnaethoch werthu eiddo preswyl yn y DU ac mae gennych dreth i’w thalu ar enillion, gallwch roi gwybod a thalu drwy ddefnyddio Cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar Eiddo yn y DU.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gwaredu ased

Mae gwaredu ased yn cynnwys:

  • ei werthu
  • ei roi i ffwrdd fel rhodd, neu ei drosglwyddo i rywun arall
  • ei gyfnewid am rywbeth arall
  • cael iawndal ar ei gyfer – er enghraifft, taliad yswiriant os yw’r ased wedi’i golli neu wedi’i ddinistrio