Treth pan fyddwch yn gwerthu eiddo
Yr hyn rydych yn talu’r dreth arno
Efallai y bydd angen i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf os ydych yn gwneud elw (‘enillion’) pan fyddwch yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’) eiddo nad yw’n gartref i chi, er enghraifft:
- eiddo prynu i osod
- eiddo busnes
- tir
- eiddo sydd wedi’u hetifeddu
Mae rheolau gwahanol os ydych:
- yn gwerthu’ch cartref (yn agor tudalen Saesneg)
- yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg)
- yn gwmni sydd wedi’i gofrestru tramor (yn agor tudalen Saesneg)
Bydd angen i chi gyfrifo’ch enillion er mwyn cael gwybod a fydd angen i chi dalu treth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pryd na fyddwch yn talu
Fel arfer, ni fydd angen i chi dalu treth ar roddion i’ch gŵr, i’ch gwraig, i’ch partner sifil neu i elusen.
Efallai y cewch ryddhad treth os mai ased busnes yw’r eiddo.
Os mai perthynas dibynnol oedd yn meddiannu’r eiddo, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr arweiniad ar Ryddhad Preswylfa Breifat (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes angen i chi dalu
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf, a’i thalu, ar y mwyafrif o werthiannau eiddo yn y DU o fewn 60 diwrnod.
Os ydych yn gwerthu eiddo sy’n eiddo i ystâd rhywun sydd wedi marw, bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth hon wrth roi gwybod i CThEF am yr ystâd.