Treth pan fyddwch yn gwerthu eiddo

Neidio i gynnwys y canllaw

Cyfrifo’ch enillion

Fel arfer, eich enillion yw’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a daloch am eich eiddo a’r hyn a gawsoch wrth werthu (neu ‘waredu’) yr eiddo.

Os yw’ch enillion cyfalaf cyfunol yn uwch na’ch lwfans ar gyfer y flwyddyn, bydd yn rhaid i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu.

Gwerth marchnadol

Mewn rhai achosion, dylech ddefnyddio gwerth marchnadol yr eiddo wrth gyfrifo’ch enillion. Gwnewch hyn os:

  • mai rhodd oedd yr eiddo (mae rheolau gwahanol os oedd yr eiddo yn rhodd i’ch priod neu bartner sifil neu i elusen)
  • gwnaethoch werthu’r eiddo am lai na’i werth er mwyn helpu’r prynwr
  • gwnaethoch etifeddu’r eiddo (ac nid ydych yn gwybod gwerth y Dreth Etifeddiant)
  • oeddech yn berchen ar yr eiddo cyn mis Ebrill 1982

Gwerthu o dan amgylchiadau arbennig

Mae rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo’ch enillion os:

Eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Os ydych yn berchen ar eiddo ar y cyd â phobl eraill, cyfrifwch yr enillion ar gyfer y cyfranddaliad yr ydych yn berchen arno.

Didynnu costau

Gallwch ddidynnu’r costau o brynu, gwerthu neu wella’ch eiddo oddi wrth eich enillion. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ffioedd gwerthwyr tai a ffioedd cyfreithwyr
  • costau gwelliannau, er enghraifft ar gyfer estyniad (nid yw costau cynnal a chadw arferol, megis addurno, yn cyfrif)

Rhyddhad

Efallai y cewch ryddhad treth os oedd yr eiddo:

Cyfrifo a oes angen i chi dalu

Ar ôl i chi gael gwybod faint yw’ch enillion ar yr eiddo, gallwch gyfrifo a oes angen i chi roi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu.

Ni allwch ddefnyddio’r gyfrifiannell os:

  • gwnaethoch werthu tir
  • gwnaethoch werthu eiddo busnes
  • gwnaethoch werthu asedion trethadwy eraill yn y flwyddyn dreth, er enghraifft cyfranddaliadau
  • gwnaethoch leihau’ch cyfranddaliad mewn eiddo rydych yn dal i fod yn berchen arno ar y cyd
  • ydych yn hawlio unrhyw ryddhad ac eithrio Rhyddhad Preswylfa Breifat neu Ryddhad Gosod
  • ydych yn gwmni, yn asiant, yn ymddiriedolwr, neu’n gynrychiolydd personol

Cyfrifo Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo

Os oes gennych Dreth Enillion Cyfalaf i’w thalu

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf a’i thalu ar y rhan fwyaf o werthiannau eiddo yn y DU cyn pen 30 diwrnod.

Rhoi gwybod am golled

Mae’r rheolau’n wahanol os oes angen i chi roi gwybod am golled.