Treth pan fyddwch yn gwerthu eiddo

Neidio i gynnwys y canllaw

Gwerthu eiddo tramor

Rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn ‘gwaredu’ eiddo tramor, os ydych yn breswylydd yn y DU.

Mae rheolau arbennig os ydych yn breswylydd yn y DU a bod eich cartref parhaol (‘domisil’) dramor.

Efallai y bydd hefyd yn rhaid i chi dalu treth yn y wlad lle gwnaethoch yr enillion. Os cewch eich trethi ddwywaith, efallai y gallwch hawlio rhyddhad.

Os ydych yn ddibreswyl

Efallai y bydd yn rhaid i bobl ddibreswyl dalu treth yn y DU ar eiddo tramor os ydynt yn dychwelyd i’r DU cyn pen 5 mlynedd o’i gadael.