Preswylwyr ‘nad yw’n ddomisil’

Mae’n bosibl na fydd yn rhaid i breswylwyr yn y DU dalu treth yn y DU ar incwm tramor os ydych chi’n gymwys i gael Rhyddhad o ran Incwm ac Enillion Tramor (yn agor tudalen Saesneg).

Cyn 6 Ebrill 2025, nid oedd preswylwyr yn y DU a oedd â’u cartref parhaol (‘domisil’) y tu allan i’r DU yn gorfod talu treth yn y DU ar incwm tramor.

Roedd yr un rheolau’n berthnasol os oeddech yn gwneud unrhyw enillion cyfalaf, er enghraifft os oeddech wedi gwerthu cyfranddaliadau neu ail gartref.

Canfod eich domisil

Fel arfer, eich domisil yw’r wlad yr oedd eich tad yn ystyried ei gartref parhaol pan gawsoch eich geni. Efallai y bydd wedi newid os wnaethoch symud dramor ac nad ydych yn bwriadu dychwelyd.

Os oes angen help arnoch i ganfod ym mha wlad y mae eich domisil, gallwch wneud y canlynol:

Mae rheolau ychwanegol ar gyfer domisil a Threth Etifeddiant.

Treth os nad yw’ch yn ddomisil

Cyn 6 Ebrill 2025, nid oeddech yn talu treth yn y DU ar eich incwm tramor na’ch enillion tramor os oedd y canlynol yn berthnasol:

  • roeddent yn llai na £2,000 yn y flwyddyn dreth

  • na wnaethoch chi ddod â nhw i’r DU, er enghraifft drwy eu trosglwyddo i gyfrif banc yn y DU

Os yw hyn yn berthnasol i chi, nid oes angen i chi wneud dim byd.

Mae Pennod 9 yn arweiniad CThEF ar ‘Fannau Preswylio, Domisil a’r Sail Drosglwyddo (yn agor tudalen Saesneg)’ yn egluro’r rheolau ar gyfer dod ag incwm neu enillion i’r DU.

Os yw’ch incwm yn £2,000 neu’n fwy – ar gyfer blwyddyn dreth hyd at 5 Ebrill 2025

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am incwm neu enillion tramor o £2,000 neu fwy, neu unrhyw arian a gawsoch yn y DU, mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • talu treth yn y DU arnynt, efallai y gallwch ei hawlio’n ôl

  • hawlio’r sail trosglwyddo

Mae hawlio’r sail trosglwyddo yn golygu eich bod ond yn talu treth yn y DU ar yr incwm neu’r enillion y byddwch wedi dod â nhw i’r DU, ond mae’n bosibl y byddwch:

Rydych yn talu tâl blynyddol o naill ai:

  • £30,000 os ydych chi wedi bod yn y DU am o leiaf 7 o’r 9 blwyddyn dreth flaenorol

  • £60,000 am o leiaf 12 o’r 14 blwyddyn dreth flaenorol

Mae hawlio’r sail drosglwyddo yn gymhleth. Gallwch wneud y canlynol:

Os ydych chi’n gweithio yn y DU ac mewn gwlad dramor

Cyn 6 Ebrill 2025, roedd rheolau arbennig os oeddech yn gweithio yn y DU ac mewn gwlad dramor.

Nid oedd rhaid i chi dalu treth ar incwm tramor nac enillion tramor (hyd yn oed os oeddech yn dod â nhw i mewn i’r DU) os cawsoch yr esemptiad ‘gweithwyr tramor’.

Roeddech yn gymhwysol os oedd:

  • eich incwm o’ch swydd dramor yn llai na £10,000

  • eich incwm tramor arall (fel llog banc) yn llai na £100

  • mae’ch holl incwm tramor yn agored i dreth tramor (hyd yn oed os nad oedd rhaid i chi dalu, er enghraifft oherwydd lwfans sy’n rhydd o dreth)

  • eich incwm yn y DU a’ch incwm tramor wedi’i chyfuno o fewn y band ar gyfer Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol

  • Os nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn honno am unrhyw reswm arall

Os ydych chi’n gymhwysol, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i hawlio.

Os ydych wedi secondio i’r DU

Efallai y gallwch hawlio Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor (yn agor tudalen Saesneg) os bydd eich cyflogwr yn eich anfon i weithio yn y DU ar secondiad.

Os ydych yn gymwys:

  • rydych yn talu treth ar eich incwm o gyflogaeth yn y DU yn seiliedig ar nifer y diwrnodau rydych chi wedi gweithio yma

  • nid ydych yn talu treth ar eich incwm ar y dyddiau rydych yn gweithio dramor

Newidiodd y rheolau ar gyfer gwneud hawliad ar 6 Ebrill 2025. I ddysgu a allwch hawlio, gofynnwch i’ch cyflogwr.

Myfyrwyr tramor

Mae rheolau arbennig os byddwch yn dod i astudio yn y DU.