Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Treth ar ystâd (eiddo, arian ac eiddo personol) rhywun sydd wedi marw yw Treth Etifeddiant.

Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • mae gwerth eich ystâd yn is na’r trothwy o £325,000
  • rydych yn gadael popeth sydd uwchlaw’r trothwy o £325,000 i’ch priod, partner sifil, elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol

Efallai y bydd dal angen i chi roi gwybod am werth yr ystâd hyd yn oed os yw’n is na’r trothwy.

Os ydych yn rhoi’ch cartref i’ch plant (gan gynnwys plant mabwysiedig, plant maeth neu lysblant) neu’ch wyrion, gall eich trothwy gynyddu i £500,000.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a bod gwerth eich ystâd yn llai na’ch trothwy, gellir ychwanegu unrhyw drothwy heb ei ddefnyddio (yn Saesneg) at drothwy eich partner pan fyddwch yn marw.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyfraddau Treth Etifeddiant

Y gyfradd safonol ar gyfer Treth Etifeddiant yw 40%. Mae Treth Etifeddiant yn cael ei chodi ar ran eich ystâd sydd uwchlaw’r trothwy yn unig.

Enghraifft

Gwerth eich ystâd yw £500,000 a’ch trothwy sy’n rhydd o dreth yw £325,000. Bydd y Dreth Etifeddiant a godir yn 40% o £175,000 (£500,000 llai £325,000).

Gall yr ystâd dalu Treth Etifeddiant ar gyfradd is o 36% (yn Saesneg) ar rai asedion os byddwch yn gadael 10% neu fwy o’r ‘gwerth net’ i elusen yn eich ewyllys (gwerth net yw cyfanswm gwerth yr ystâd lai unrhyw ddyledion).

Rhyddhadau ac eithriadau

Mae’n bosibl y bydd rhai rhoddion a rowch tra’ch bod yn fyw yn cael eu trethu ar ôl eich marwolaeth. Yn dibynnu ar pryd y gwnaethoch roi’r rhodd, gallai ‘rhyddhad meinhau’ olygu bod y Dreth Etifeddiant a godir ar y rhodd yn llai na 40%.

Mae rhyddhad eraill, megis Rhyddhad Busnes (yn Saesneg), yn caniatáu i rai asedion gael eu trosglwyddo’n rhydd o Dreth Etifeddiant neu gyda bil gostyngol.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os yw’ch ystâd yn cynnwys fferm neu goetir.

Pwy sy’n talu’r dreth i CThEF

Mae arian o’ch ystâd yn cael ei ddefnyddio i dalu Treth Etifeddiant i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Gwneir hyn gan y person sy’n delio â’r ystâd (a elwir yn ‘ysgutor’, os oes ewyllys (yn Saesneg)).

Nid yw’ch buddiolwyr (y bobl sy’n etifeddu’ch ystâd) fel arfer yn talu treth ar bethau y maent yn eu hetifeddu (yn Saesneg). Mae’n bosibl y bydd ganddynt drethi cysylltiedig i’w talu, er enghraifft, os ydynt yn cael incwm o rent ar dŷ sydd wedi’i adael iddynt mewn ewyllys.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i bobl rydych yn rhoi rhoddion iddynt dalu Treth Etifeddiant, ond dim ond os byddwch yn rhoi mwy na £325,000 i ffwrdd ac yn marw o fewn 7 mlynedd.