Sut mae Treth Etifeddiant yn gweithio: trothwyon, rheolau a lwfansau

Neidio i gynnwys y canllaw

Pan fydd rhywun sy’n byw y tu allan i’r DU yn marw

Os yw’ch cartref parhaol (‘domisil’) dramor, dim ond ar eich asedion yn y DU y mae Treth Etifeddiant yn cael ei thalu, er enghraifft, eiddo neu gyfrifon banc sydd gennych yn y DU.

Nid yw’n cael ei thalu ar ‘asedion sydd wedi’u heithrio’ megis:

  • cyfrifon arian cyfred tramor gyda banc neu’r Swyddfa Bost
  • pensiynau tramor
  • daliannau mewn ymddiriedolaethau unedol awdurdodedig a chwmnïau buddsoddi penagored

Mae rheolau gwahanol os oes gennych asedion mewn ymddiriedolaeth neu giltiau llywodraeth, neu os ydych yn aelod o luoedd arfog sy’n ymweld.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych yn siŵr a yw’ch asedion wedi’u heithrio.

Pan na fyddwch yn cyfrif fel byw dramor

Bydd CThEF yn eich trin fel rhywun sy’n byw yn y DU os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi byw yn y DU am 15 o’r 20 mlynedd diwethaf
  • roedd eich cartref parhaol yn y DU ar unrhyw adeg yn ystod 3 blynedd olaf eich bywyd

Cytuniadau trethiant dwbl

Mae’n bosibl y bydd eich ysgutor yn gallu adennill treth drwy gytuniad trethiant dwbl (yn Saesneg) os codir Treth Etifeddiant ar yr un asedion gan y DU a’r wlad lle’r oeddech yn byw.