Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth

Sgipio cynnwys

Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd

Mae p’un a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys a oes Treth Etifeddiaeth i’w thalu.

Mae ‘manylion llawn’ yn golygu asedion, dyledion, rhoddion, rhyddhadau ac eithriadau sydd gan ystâd, Bydd y rhain yn rhoi cyfanswm gwerth yr ystâd i chi.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir.

Os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus

Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i gael gwybod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.

Os oes Treth Etifeddiant i’w thalu, bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd cyn pen 12 mis i farwolaeth y person, a chyn gwneud cais am brofiant.

Pryd i anfon manylion llawn am yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus

Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth i’w thalu, os yw un o’r canlynol yn wir am y person a fu farw:

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 12 mis i farwolaeth y person.

Os yw’r ystâd yn cynnwys ymddiriedolaethau

Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd os wnaeth y person a fu farw y canlynol:

  • rhoi rhoddion (megis arian parod, eiddo, a chyfrannau) a roddwyd mewn ymddiriedolaethau
  • dal asedion a oedd yn werth mwy na £250,000 mewn ymddiriedolaeth
  • dal mwy nag un ymddiriedolaeth

Bydd hefyd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd os cafodd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth eu pasio i briod neu bartner sifil sy’n fyw neu i elusen, ac os mai gwerth yr ymddiriedolaeth oedd:

  • £1 miliwn neu fwy
  • £250,000 neu fwy, ar ôl didynnu’r swm sy’n cael ei basio i’r priod neu’r partner sifil sy’n fyw neu i elusen

Pryd nad oes angen manylion llawn am yr ystâd

Nid oes angen i chi roi manylion llawn am werth ystâd os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • mae’r ystâd yn cyfrif fel ‘ystâd eithriedig’
  • nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu
  • rydych wedi gwirio nad yw’r un o’r rhesymau o dan ‘Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus’ yn berthnasol

Mae’r rhan fwyaf o ystadau’n rhai eithriedig.

Beth sy’n cyfrif fel ystâd eithriedig

Mae ystâd fel arfer yn ystâd eithriedig os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

Mae rheolau gwahanol ar gyfer ystadau eithriedig os bu farw’r person ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn i’w wneud nesaf

Mae’r broses y mae angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar y canlynol:

Delio ag ystâd eithriedig

Gallwch roi gwybod am werth ystâd eithriedig os ydych yn gwneud cais am brofiant. Gwiriwch a oes angen profiant arnoch, a gwnewch gais amdano, os felly.

Does dim angen i chi roi gwybod am werth ystâd eithriedig os nad oes angen profiant arnoch.

Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ystâd eithriedig os bu farw’r person ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn agor tudalen Saesneg).

Gwneud cais am brofiant yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Mae ffordd wahanol o wneud cais am brofiant os oedd y person a fu farw yn byw yn yr Alban neu’n byw yng Ngogledd Iwerddon.

Os oes angen help arnoch gyda phrofiant neu werth ystâd

Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF os nad ydych yn sicr a fydd angen profiant arnoch neu os bydd gwerth yr ystâd yn newid.

Y Ganolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd at 1pm
Ar gau ar wyliau’r banc
Dysgwch am gostau galwadau
Sgwrsio dros y we
E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Os oes angen help arnoch gyda Threth Etifeddiant

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych gwestiynau ynghylch Treth Etifeddiant.