Nodi asedion a dyledion

Cyn y gallwch brisio arian, eiddo a meddiannau’r ymadawedig (ei ystad), bydd angen i chi nodi’r pethau yr oedd yn berchen arnynt (ei asedion) a’i ddyledion.

Mae asedion yn cynnwys pethau fel cyfrifon banc, cynilion a phensiynau, yn ogystal ag eiddo, nwyddau i’r tŷ ac eitemau personol.

Mae dyledion yn cynnwys pethau fel biliau cyfleustodau, morgeisi ac arian sy’n ddyledus ar gardiau credyd. Maent hefyd yn cynnwys costau angladd, megis cost trefnydd angladdau, carreg fedd neu blac, a lluniaeth.

Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cael gwybod pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw (gallwch wneud hyn drwy chwilio drwy bapurau’r ymadawedig neu drwy ofyn i ffrindiau, teulu ac unrhyw gyfreithiwr neu gyfrifydd a oedd gan yr unigolyn)
  • ysgrifennu at y sefydliadau hyn i ofyn am werth yr ased neu’r ddyled pan fu’r unigolyn farw (bydd angen i chi gynnwys copi o’r dystysgrif marwolaeth)

Pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw

Mae sefydliadau sy’n dal asedion yn aml yn cynnwys:

  • banc yr unigolyn
  • darparwr pensiwn yr unigolyn – gofynnwch a ddylech gynnwys pensiwn preifat pan fyddwch yn prisio’r ystad
  • cyflogwr yr unigolyn – mae’n bosibl bod cyflog yn ddyledus i’r unigolyn
  • unrhyw gwmnïau yr oedd gan yr unigolyn gyfranddaliadau ynddynt – dylech gynnwys nifer y cyfranddaliadau, manylion y cwmni a rhif tystysgrif y cyfranddaliadau (os oes gennych hwn)
  • Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) ar gyfer Bondiau Premiwm – defnyddiwch y gwasanaeth olrhain sy’n rhad ac am ddim os na allwch ddod o hyd i dystysgrifau
  • sefydliadau eraill sy’n dal asedion fel cyfrifon ISA, cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu asedion mewn ymddiriedolaeth (yn Saesneg)
  • y landlord, os oedd gan yr unigolyn – efallai ei fod wedi talu rhent ymlaen llaw

Yn eich llythyr i’r banc, dylech hefyd holi ynghylch:

  • unrhyw archebion sefydlog a debydau uniongyrchol sydd i’w stopio (neu sydd i’w trosglwyddo os oeddent mewn enw ar y cyd)
  • rhestr o unrhyw dystysgrifau cyfranddaliadau neu weithredoedd yr oedd y banc yn eu dal ar ran yr unigolyn a fu farw

Os oedd gan yr unigolyn forgais

Gofynnwch i’r benthyciwr morgeisi a fydd angen i daliadau barhau tra rydych yn gwneud cais am brofiant. Os felly, bydd yn rhaid i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu’r biliau hyn eich hun – a’u hawlio’n ôl o’r ystad unwaith y bydd gennych brofiant
  • gwirio a oedd gan yr unigolyn yswiriant bywyd neu bolisi diogelu morgais sy’n cwmpasu’r taliadau hyn