Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth
Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus neu os oes angen manylion llawn am yr ystâd
Mae’n rhaid i chi roi gwybod holl fanylion llawn am yr ystâd i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy lenwi ffurflen IHT400.
Mae ‘manylion llawn’ yn golygu asedion, dyledion, rhoddion, rhyddhadau ac eithriadau sydd gan ystâd, Bydd y rhain yn rhoi cyfanswm gwerth yr ystâd i chi.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen cyn pen 12 mis i farwolaeth y person, a chyn gwneud cais am brofiant (os oes ei angen arnoch).
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn methu’r dyddiad cau heb esgus rhesymol.
Cael prisiadau cywir
Bydd angen i chi roi prisiadau cywir wrth i chi lenwi’r ffurflen.
Gallwch gael prisiad o unrhyw eiddo neu dir gan asiant tai neu syrfëwr siartredig.
Gallwch hefyd gael prisiad proffesiynol ar gyfer unrhyw beth sy’n werth dros £1,500.
Gallwch amcangyfrif gwerth asedion rhatach, fel eitemau electronig a nwyddau arferol y tŷ.
Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.
Rhoi gwybod am werth yr ystâd drwy lenwi ffurflen IHT400
Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen IHT400. Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Wrth lenwi a chyflwyno’r ffurflen, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y canlynol:
- ateb bob cwestiwn perthnasol
- cwblhau ac anfon unrhyw dudalennau ychwanegol perthnasol (a elwir yn ‘atodlenni’)
- anfon copi o’r ewyllys yn unig (os oes un) a chynnwys copïau o unrhyw newidiadau swyddogol (a elwir yn ‘godisiliau’) – peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol
Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi ffurflen IHT400.
Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen
Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael help gyda llenwi’r ffurflen IHT400.
Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen
Bydd CThEF yn cyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus, yn ogystal ag unrhyw log y gallai fod angen i chi ei dalu. Bydd yn ysgrifennu atoch gyda’i gyfrifiadau ac yn rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd nesaf.
Pryd y gall CThEF gynnal gwiriadau pellach
Weithiau, gall CThEF gynnal gwiriadau pellach ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i darparu (a elwir yn wiriad cydymffurfio).
Gall hyn gynnwys yr Asiantaeth Swyddfa Brisio (VOA) neu’r tîm Prisio Cyfranddaliadau ac Asedion (SAV) yn gwirio unrhyw brisiadau a ddarperir.
Os nad ydych wedi clywed gan CThEF 14 wythnos ar ôl cyflwyno’ch ffurflen IHT400, ni fydd unrhyw wiriadau pellach yn cael eu cynnal.
Os dewisir eich ffurflen ar gyfer gwiriadau pellach
Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os yw’n cynnal gwiriadau pellach.
Bydd CThEF wedyn yn ffonio i egluro beth mae’n ei wirio. Bydd yn gwneud hyn cyn pen 8 wythnos o ysgrifennu atoch chi.
Os bydd yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, bydd yn cytuno pryd y bydd angen i chi ei darparu.
Os oes angen i’r VOA neu’r SAV wirio prisiadau
Efallai y bydd y VOA neu’r SAV yn cysylltu â chi ynglŷn â’r prisiadau rydych chi wedi’u darparu.
Os ydynt yn penderfynu bod unrhyw un o’r asedion yn werth mwy na’r prisiadau a ddarperir, bydd CThEF yn anfon cyfrifiadau newydd atoch unwaith y cytunwyd ar y gwerthoedd.
Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i werth yr ystâd
Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau unwaith y bydd y gwerthoedd yn derfynol neu 18 mis ar ôl i’r person farw, pa un bynnag sydd gyntaf.
Os nad yw’r gwerthoedd yn derfynol neu os yw’n llai na 18 mis ers i’r person farw, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF dim ond os yw’r canlynol yn wir:
- mae newid yng ngwerth tir, adeiladau neu gyfranddaliadau heb eu rhestru
- rydych wedi gwerthu tir neu gyfranddaliadau ar golled
- rydych wedi gwerthu unrhyw asedion yr oeddech chi’n talu treth fesul rhandaliad
- mae gwerth yr ystâd wedi cynyddu neu ostwng gan fwy na £50,000 cyn unrhyw esemptiadau neu ryddhadau
- fe wnaeth y person a fu farw rodd â budd amodol neu roedd yn ‘fuddiolwr’ mewn ymddiriedolaeth pan fu farw
- mae gwiriadau pellach yn cael eu cynnal ar yr ystâd
Sut i roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau
Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyfrif cywirol (yn agor tudalen Saesneg) neu ar gyfer ystadau yn yr Alban cyfrif a stocrestr gywirol (Yr Alban) (yn agor tudalen Saesneg). Ar ôl llenwi’r ffurflen, anfonwch at y cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd angen i chi gyfrifo unrhyw dreth ychwanegol sy’n ddyledus a gwneud taliad ar gyfrif i atal unrhyw log rhag cronni. Bydd CThEF yn anfon cyfrifiadau terfynol unwaith y bydd ganddo’r holl fanylion.
Hawlio rhyddhad ar eiddo neu gyfranddaliadau a werthwyd ar golled
I hawlio rhyddhad ar dir neu adeiladau a werthwyd ar golled cyn pen 4 blynedd i farwolaeth y person, llenwch ffurflen IHT38 (yn agor tudalen Saesneg).
I hawlio rhyddhad ar gyfranddaliadau a werthwyd ar golled cyn pen 12 mis i farwolaeth y person, llenwch ffurflen IHT35 (yn agor tudalen Saesneg)
Ar ôl llenwi’r ffurflen, anfonwch at y cyfeiriad ar y ffurflen.
Talu Treth Etifeddiant
Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw er mwyn osgoi talu llog. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu erbyn 31 Gorffennaf.
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddechrau talu Treth Etifeddiant cyn i chi gael profiant.
Gallwch dalu fesul rhandaliad blynyddol ar gyfer rhai pethau a allai gymryd amser i’w gwerthu, megis tŷ.
Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) o leiaf 3 wythnos cyn talu unrhyw dreth.
Pryd y gallwch wneud cais am brofiant
Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch sy’n cadarnhau eich bod wedi talu digon o dreth. Fel arfer, cewch hwn cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl i’ch ffurflen IHT400 neu’ch taliad Treth Etifeddiant ddod i law CThEF, pa un bynnag sydd hwyraf.
Bydd angen y cod hwn arnoch i wneud cais am brofiant yng Nghymru a Lloegr neu gadarnhad yn yr Alban.
Os ydych yn gwneud cais am brofiant yng Ngogledd Iwerddon
Llenwch ffurflen IHT421 (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon at CThEF ynghŷd a ffurflen IHT400.
Bydd CThEF yn llenwi ei ran o ffurflen IHT421 a’i dychwelyd atoch chi. Fel arfer, cewch hwn cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl i’ch ffurflen IHT400 neu’ch taliad Treth Etifeddiant ddod i law CThEF, pa un bynnag sydd hwyraf.
Bydd angen hwn arnoch er mwyn gwneud cais am brofiant yng Ngogledd Iwerddon.