Skip to main content

Cael cyfeirnod talu

Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) o leiaf 3 wythnos cyn i chi wneud taliad.

I wneud taliad ar gyfer ymddiriedolaeth

Bydd angen i chi wneud cais am gyfeirnod drwy lenwi ffurflen IHT122 a’i hanfon at CThEF.

I wneud taliad ar gyfer unrhyw beth arall

Bydd angen i chi wneud cais am gyfeirnod Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) gan ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi neu’ch cyfeiriad e-bost.