Talu’ch bil Treth Etifeddiant
Talu â siec drwy’r post
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch y ddau beth canlynol ar gefn y siec:
- enw’r ymadawedig
- eich cyfeirnod talu Treth Etifeddiant - bydd hwn i’w weld ar y llythyr a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF)
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Peidiwch â phlygu’ch siec.
Anfonwch eich siec ar wahân i unrhyw ffurflenni neu lythyrau eraill y mae angen i chi eu hanfon at CThEF. Os byddwch yn anfon unrhyw beth arall gyda’ch siec, efallai y bydd eich taliad yn cael ei oedi.
Peidiwch ag anfon sieciau ar gyfer ffioedd profiant at CThEF. Dysgwch sut i wneud cais am brofiant a thalu ffioedd profiant.
Ble i anfon eich siec
Cyllid a Thollau EF
Treth Etifeddiant
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Mae’n rhaid i chi sicrhau fod eich taliad yn cyrraedd CThEF erbyn y dyddiad cau.