Talu’ch bil Treth Etifeddiant
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Gallwch dalu Treth Etifeddiant o’ch cyfrif banc eich hun neu gyfrif banc ar y cyd os oedd gennych un yn eich enwi chi ar y cyd â’r ymadawedig. Gallwch ei hawlio’n ôl o ystâd yr ymadawedig.
Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen.
Llenwch un o slipiau talu eich banc gan ddefnyddio manylion cyfrif banc CThEF, fel a ganlyn:
- cod didoli - 25 61 21
- rhif y cyfrif - 63495590
- enw’r cyfrif - CThEF Treth Etifeddiant
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch enw’r ymadawedig a’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant ar gefn y siec. Fe welwch y cyfeirnod ar y llythyr a anfonwyd atoch gan CThEF.
Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth gwahanol sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF er mwyn gofyn i’ch taliad gael ei symud.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF, os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.