Talwch yn gynnar er mwyn osgoi llog

Gallwch wneud taliadau Treth Etifeddiant cynnar cyn eich bod yn gwybod yr union swm sydd ar yr ystâd (gelwir hyn yn ‘daliad ar gyfrif’).

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn codi llog arnoch (yn agor tudalen Saesneg) os na fyddwch yn talu’r holl dreth sydd ar yr ystâd erbyn y dyddiad dyledus. Os na fyddwch yn gwybod faint o Dreth Etifeddiant sydd ar yr ystâd erbyn i’r taliad fod yn ddyledus, gall taliad ar gyfrif eich helpu i osgoi rhywfaint o’r llog.

Os ydych yn gordalu

Os ydych yn talu mwy o arian nag y mae’r bil terfynol yn nodi sydd ar yr ystâd, bydd CThEF yn ad-dalu’r swm sydd dros ben ar ôl i chi gael profiant (‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)). Profiant yw’r hawl i ddelio ag eiddo, arian a meddiannau’r ymadawedig.

Bydd CThEF hefyd yn talu llog i chi (yn agor tudalen Saesneg) ar y swm yr ydych wedi’i ordalu.

I gael ad-daliad, bydd yn rhaid i chi ysgrifennu i CThEF.

Cyllid a Thollau EF
Tîm Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST

Rhowch ‘Ad-daliad - manylion pellach’ ar frig y llythyr.

Nodwch enw, rhif a chod didoli’r cyfrif banc yr ydych am i’r ad-daliad fynd iddo.

Rhaid bod y llythyr wedi’i lofnodi gan yr un bobl a lofnododd y ffurflenni IHT400 a IHT100, os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gwneud cais heb help cyfreithiwr neu asiant
  • mae’r ad-daliad yn cael ei dalu i gyfrif banc gwanhaol i’r un a enwebwyd yn yr IHT400 neu’r IHT100

Os ydych yn asiant sy’n gweithredu ar ran yr ystâd ac nad ydych yn gofyn bod yr ad-daliad yn cael ei dalu i gyfrif banc gwahanol, rhowch eich llofnod chi yn unig ar y llythyr.