Drwy drosglwyddo eiddo treftadaeth genedlaethol

Mewn achosion eithriadol iawn, efallai y gallwch wneud taliadau Treth Etifeddiant drwy drosglwyddo eiddo treftadaeth genedlaethol i’r Goron.

Gall eiddo treftadaeth genedlaethol gynnwys y canlynol:

  • adeiladau neu dir sydd o ddiddordeb hanesyddol, pensaernïol, golygfaol neu wyddonol
  • gweithiau celf, llyfrau a llawysgrifau neu gasgliadau gwyddonol sydd o ddiddordeb hanesyddol, golygfaol neu wyddonol

Caiff cynigion i wneud taliadau Treth Etifeddiant drwy drosglwyddo eiddo treftadaeth genedlaethol i’r Goron eu trin fesul achos.

Cysylltwch â thîm Treftadaeth CThEF i gael gwybodaeth am wneud cynnig.

Treftadaeth CThEF / HMRC Heritage
Ffôn: 03000 562388
Dysgwch am gostau galwadau

Treftadaeth CThEF / HMRC Heritage
Cyllid a Thollau EF
Ferrers House, PO Box 38
Castle Meadow Road
Nottingham
NG2 1BB

Os derbynnir eich cynnig

Hyd yn oed os caiff eich cynnig ei dderbyn, yn y lle cyntaf mae’n rhaid i chi dalu’r holl Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus gennych drwy ddulliau eraill a chael ‘grant cynrychiolaeth’ (a elwir hefyd yn ‘profiant’). Gelwir hyn yn ‘confirmation’ yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg).

Unwaith y bydd eich eiddo wedi’i drosglwyddo, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ad-dalu’r Dreth Etifeddiant rydych wedi’i thalu.