Skip to main content

Ymddiriedolaethau

  1. Llenwch ffurflen IHT122 o leiaf 3 wythnos cyn eich bod chi am wneud taliad er mwyn cael eich cyfeirnod talu Treth Etifeddiant mewn pryd

  2. Anfonwch Cyfrif Treth Etifeddiant ffurflen IHT100 (yn agor tudalen Saesneg) at Gyllid a Thollau EF (CThEF)

  3. Talwch y Dreth Etifeddiant, naill ai drwy fanc neu gymdeithas adeiladu neu drwy dalu â siec drwy’r post.

Dyddiadau cau ar gyfer talu

Trosglwyddiadau

Rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant ar drosglwyddiadau i mewn i ymddiriedolaeth - neu allan o ymddiriedolaeth (a elwir yn ‘daliadau ymadael’) - erbyn 6 mis ar ôl diwedd y mis y gwnaed y trosglwyddiad, fan bellaf.

Tâl 10 mlynedd

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant bob 10 mlynedd o adeg sefydlu’r ymddiriedolaeth. Rhaid i chi dalu hwn erbyn 6 mis ar ôl pob 10 mlynedd, fan bellaf.