Talu’ch bil Treth Etifeddiant
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch dalu Treth Etifeddiant o’ch cyfrif banc eich hun neu gyfrif banc ar y cyd os oedd gennych un yn eich enwi chi ar y cyd â’r ymadawedig. Gallwch ei hawlio’n ôl o ystâd yr ymadawedig.
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
- drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- drwy ffonio’ch banc
Gwnewch eich taliad i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF) gan ddefnyddio’r manylion canlynol:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001136
- enw’r cyfrif - HMRC Inheritance Tax
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant fel y cyfeirnod talu.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu yn unol ag amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor:
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB66BARC20114763495590
- enw’r cyfrif - HMRC Inheritance Tax
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain / London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP