O gyfrif banc yr ymadawedig

Gallwch ofyn i fanciau, cymdeithasau adeiladu neu Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) dalu’r holl Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus, neu ran ohoni, o gyfrifon y person ymadawedig i Gyllid a Thollau EF (CThEF). Gelwir hyn y ‘Cynllun Taliadau Uniongyrchol’.

Gallwch ddechrau’r broses hon cyn bod gennych brofiant (a elwir hefyd yn gadarnhad neu’n ‘confirmation’ yn yr Alban).

  1. Gofynnwch i’r banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I eich gwneud yn ‘gynrychiolydd personol’ - bydd pob un yn gwneud hyn mewn ffordd wahanol.

  2. Dewch o hyd i’ch cyfeirnod talu Treth Etifeddiant.

  3. Llenwch ffurflen IHT423 a’i hanfon i’r banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I. Anfonwch ffurflen ar wahân ar gyfer pob cyfrif yr ydych am ei ddefnyddio i dalu CThEF.

  4. Anfonwch ffurflen Cyfrif Treth Etifeddiant IHT 400 ac unrhyw dudalennau atodol neu ddogfennau ategol at CThEF. Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, dylech gynnwys Crynodeb Profiant ffurflen IHT421 (yn agor tudalen Saesneg). Os ydych yn yr Alban, dylech gynnwys ffurflen gadarnhad C1 (yn agor tudalen Saesneg).

Anfonwch y ffurflenni at y cyfeiriad canlynol:

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
Treth Etifeddiant
HMRC
BX9 1ST

Ar ôl i’r arian gael ei drosglwyddo

Bydd y banc, cymdeithas adeiladu neu NS&I yn talu rhywfaint o’r Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus i CThEF, neu’r cyfan ohoni.

Mae’r hyn sy’n digwydd nesaf yn dibynnu ar ba wlad yn y DU rydych chi ynddi.

Yng Nghymru a Lloegr

Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch fel y gallwch wneud cais am brofiant ar-lein.

Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban

Bydd CThEF yn stampio ac yn dychwelyd ffurflen Crynodeb Profiant IHT421 (Gogledd Iwerddon) neu ffurflen gadarnhad C1 (yr Alban) - dyma gadarnhad bod gennych brofiant.