Rhandaliad blynyddol

Gallwch dalu eich Treth Etifeddiant ar bethau a all gymryd amser i’w gwerthu mewn rhandaliadau blynyddol cyfartal dros 10 mlynedd.

Rhaid i chi roi gwybod ar y ffurflen Cyfrif Treth Etifeddiant IHT400 os ydych am dalu fesul rhandaliad.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu llog ar eich rhandaliadau. Defnyddiwch y cyfrifiannell er mwyn cyfrifo’r llog (yn agor tudalen Saesneg) y bydd angen i chi ei dalu.

Rhaid i chi dalu’r dreth yn llawn pan fyddwch wedi gwerthu asedion yr ymadawedig, megis ei dŷ neu ei gyfranddaliadau.

Pryd fydd yn rhaid i chi dalu

Mae’r rhandaliad cyntaf yn ddyledus ar ddiwedd y chweched mis ar ôl y farwolaeth (er enghraifft, os bu farw ar 12 Ionawr, byddai’n rhaid i chi dalu erbyn 31 Gorffennaf). Gelwir hyn y ‘dyddiad dyledus’. Wedyn, mae taliadau’n ddyledus bob blwyddyn ar y dyddiad hwnnw.

Talu’n gynnar

Gallwch dalu swm llawn y dreth a’r llog ar unrhyw adeg. Ysgrifennwch at Dîm Treth Etifeddiant, Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i ofyn am asesiad terfynol (nid oes rhaid i chi gynnwys y taliad).

Yr hyn rydych yn talu llog arno

Ni fyddwch yn talu unrhyw log ar y rhandaliad cyntaf oni bai eich bod yn ei dalu’n hwyr. Ar bob rhandaliad ar ôl hynny, rhaid i chi dalu llog ar y ddau beth canlynol:

  • balans llawn y dreth sy’n ddyledus
  • y rhandaliad ei hun, o’r dyddiad y mae’n ddyledus hyd at ddyddiad y taliad (os caiff ei dalu’n hwyr)

Yr hyn y gallwch ei dalu fesul rhandaliad

Tai

Gallwch dalu 10% a’r llog bob blwyddyn os ydych yn penderfynu cadw’r tŷ i fyw ynddo.

Cyfranddaliadau a gwarantau

Gallwch dalu fesul rhandaliad os oedd y cyfranddaliadau neu’r gwarantau yn galluogi’r ymadawedig i reoli mwy na 50% o gwmni.

Cyfranddaliadau a gwarantau nas rhestrwyd

Gallwch dalu fesul rhandaliad am gyfranddaliadau neu warantau ‘nas rhestrwyd’ (rhai nad ydynt yn cael eu masnachu ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig) os ydynt yn werth mwy na £20,000 a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf (a elwir yn werth ‘nominal’ neu ‘gwerth enwol’)
  • maent yn cynrychioli 10% o gyfanswm gwerth y cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni, am y pris y cawsant eu gwerthu am y tro cyntaf

Gallwch ddod o hyd i werth enwol cyfranddaliad, a ph’un a yw’n gyfranddaliad cyffredin, ar dystysgrif y cyfranddaliad.

Gallwch hefyd dalu fesul rhandaliad os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae o leiaf 20% o gyfanswm y Dreth Etifeddiant sydd ar yr ystâd ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu fesul rhandaliad
  • bydd talu Treth Etifeddiant arnynt mewn un cyfandaliad yn achosi anawsterau ariannol

Busnes sy’n cael ei weithredu er mwyn elw

Gallwch dalu fesul rhandaliad ar werth net busnes, ond nid ei asedion.

Tir ac eiddo amaethyddol

Mae hyn yn anghyffredin, oherwydd bod y rhan fwyaf o dir ac eiddo amaethyddol wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant.

Rhoddion

Gallwch dalu fesul rhandaliad os oes Treth Etifeddiant i’w thalu o hyd, a rhoddwyd y canlynol i chi:

  • adeiladau
  • cyfranddaliadau neu warantau
  • busnes cyfan neu ran ohono

Os oedd y rhodd yn gyfranddaliad neu warant nas rhestrwyd, mae’n rhaid ei bod yn dal heb ei rhestru ar adeg y farwolaeth.