Gwneud cais am brofiant
Gwneud cais am brofiant
Gallwch wneud cais am brofiant eich hun ar-lein neu drwy’r post. Gall hyn fod yn rhatach na thalu i ymarferydd profiant (er enghraifft cyfreithiwr) wneud cais ar eich rhan.
Darllenwch ganllawiau gan Money Helper ynghylch defnyddio ymarferydd profiant i gael gwybodaeth am gyflogi gweithiwr cyfreithiol proffesiynol.
Fel arfer, byddwch yn cael y grant profiant cyn pen 16 wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gall gymryd mwy o amser os oes angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol
Mae’r cyfarwyddyd a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gwneud cais am brofiant ar-lein
Mae’n rhaid eich bod wedi amcangyfrif gwerth yr ystad i ddarganfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu cyn y gallwch wneud cais am brofiant.
Os ydych wedi anfon manylion llawn yr ystad at Gyllid a Thollau EF (HMRC), cyn gwneud cais am brofiant mae’n rhaid i chi:
- ddechrau talu Treth Etifeddiant, os yw hynny’n berthnasol
- aros i HMRC anfon llythyr fydd yn cynnwys cod atoch cyn i chi wneud cais
Dychwelyd i’ch cais
Mewngofnodwch i’r gwasanaeth profiant i:
- barhau â chais ar-lein sydd wedi’i gychwyn
- gweld ceisiadau sydd wedi’u cwblhau
Gwiriwch sut i olrhain cynnydd eich cais.
Os oes arnoch angen help i wneud cais ar-lein
Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.
Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau
Sgwrsio dros y we
Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Wedi cau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau
Gwneud cais am brofiant drwy’r post
Mae’r ffurflen y mae angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar p’un a adawodd y sawl a fu farw ewyllys ai peidio.
Os oes ewyllys, llenwch ffurflen gais PA1P.
Os nad oes ewyllys, llenwch ffurflen gais PA1A.
Os ydych wedi anfon manylion llawn yr ystad at HMRC, cyn gwneud cais am brofiant mae’n rhaid i chi:
- ddechrau talu Treth Etifeddiant, os yw hynny’n berthnasol
- aros i HMRC anfon llythyr fydd yn cynnwys cod atoch cyn i chi wneud cais
Mae’n cymryd mwy o amser i brosesu ceisiadau papur na cheisiadau ar-lein. Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wneud cais am brofiant os gallwch wneud hynny.