Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y Gwasanaeth Profiant yn adolygu eich cais. Gallwch olrhain cynnydd eich cais am brofiant ar-lein.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo, bydd yr ewyllys ac unrhyw ychwanegiadau iddi (‘codisiliau’) yn cael eu cadw gan y gofrestrfa brofiant ac yn dod yn gofnod cyhoeddus. Os byddwch yn anfon y dystysgrif marwolaeth, yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.

Beth fyddwch chi’n ei gael

Fe gewch ddogfen sy’n eich galluogi i ddechrau delio â’r ystad. Bydd yn un o’r canlynol:

  • ‘grant profiant’ - os gadawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys
  • ‘llythyrau gweinyddu gyda’r ewyllys wedi’i hatodi’ - os nad yw’r ewyllys yn enwi ysgutor neu os na all yr ysgutor a enwir wneud cais
  • ‘llythyrau gweinyddu’ – os na adawodd yr unigolyn a fu farw ewyllys

Fel arfer, byddwch yn cael y grant profiant neu lythyrau gweinyddu cyn pen 16 wythnos ar ôl i chi gyflwyno eich cais. Gall gymryd mwy o amser os oes angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

Os gwnaethoch archebu copïau o’ch dogfennau profiant i’w defnyddio y tu allan i’r DU, bydd y rhain yn cymryd mwy o amser i gyrraedd na’r copi ar gyfer y DU.

Os oes unrhyw beth o’i le gyda’r ddogfen brofiant, anfonwch y ddogfen yn ôl i gofrestra brofiant y dosbarth a nodir ar y grant neu’r llythyrau.

Beth fydd yn digwydd nesaf

Unwaith y bydd gennych y grant profiant (neu lythyrau gweinyddu) gallwch ddechrau delio â’r ystad.

Anfonwch gopïau o’r ddogfen brofiant i’r sefydliadau sy’n dal asedau’r sawl a fu farw, er enghraifft eu banc.