Gwneud cais am brofiant
Cyn ichi wneud cais
Cyn gwneud cais am brofiant bydd angen i chi wneud y canlynol.
-
Gwirio bod angen profiant a’ch bod yn gallu gwneud cais.
-
Amcangyfrif gwerth yr ystad at bwrpas Treth Etifeddiant. Hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddiant yn ddyledus, bydd angen ichi amcangyfrif gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.
-
Canfod a ydych angen riportio manylion llawn yr ystad i Gyllid a Thollau EF (HMRC). Os nad oedd rhaid i chi anfon y manylion llawn, gelwir hyn yn ‘ystad eithriedig’.
-
Os oes angen ichi dalu Treth Etifeddiant, dechreuwch wneud y taliadau angenrheidiol. Yna, bydd HMRC yn anfon cod unigryw atoch, a byddwch angen hwn cyn y gallwch wneud cais. Gallwch wneud cais am brofiant ar unwaith os yw’n ystad eithriedig.
Os oes mwy nag un unigolyn yn gwneud cais
Mae’r grŵp o geiswyr yn dewis un unigolyn i fod yn prif geisydd. Nhw fydd yn rheoli’r cais am brofiant ar ran yr holl geiswyr.
Rhaid i bob ceisydd roi ei gyfeiriad e-bost a’i rif ffôn symudol i’r prif geisydd. Rhaid bod gan bawb sy’n gwneud y cais fynediad i’r rhyngrwyd.
Unwaith y bydd y prif geisydd wedi llofnodi’r datganiad cyfreithiol, bydd y ceiswyr eraill yn cael:
- e-bost gyda dolen i’r datganiad cyfreithiol
- neges destun gyda’r cod mynediad i lofnodi’r datganiad
Ni all y prif geisydd barhau â’r cais am brofiant nes fydd pawb wedi llofnodi’r datganiad cyfreithiol.
Gall y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd ond trafod manylion y cais gyda’r ceiswyr sydd wedi’u henwi yn y cais.
Prisio ‘ystad eithriedig’ ar gyfer profiant
Bydd angen i chi amcangyfrif gwerth yr ystad fel rhan o’ch cais am brofiant.
Defnyddiwch y gyfrifiannell Treth Etifeddiant (IHT) ar-lein i amcangyfrif gwerth yr ystad. Bydd yn rhoi 3 o’r 5 darn o wybodaeth rydych eu hangen ar gyfer eich cais am brofiant:
- gwerth gros yr ystad ar gyfer IHT (cyfanswm gwerth yr ystad pan fu farw’r unigolyn)
- gwerth net yr ystad ar gyfer IHT (gwerth yr ystad ar ôl tynnu unrhyw ddyledion, costau a threuliau derbyniol eraill megis biliau cadw tŷ a morgeisi)
- gwerth net cymwys ar gyfer IHT (gwerth net yr ystad ar ôl tynnu unrhyw esemptiadau ar gyfer gŵr/gwraig, partner sifil neu elusen)
Defnyddiwch y gwerthoedd hyn i gyfrifo’r 2 darn arall o wybodaeth fydd ei hangen arnoch:
- gwerth gros ar gyfer profiant (cyfanswm gwerth yr ystad ar ôl tynnu rhai asedau a rhoddion penodol)
- gwerth net ar gyfer profiant (gwerth profiant ar ôl tynnu dyledion a chostau)
Sut i gyfrifo’r gwerth gros ar gyfer profiant
Cyfrifwch beth yw gwerth gros yr ystad at ddibenion Treth Etifeddiant ac yna tynnwch bob un o’r gwerthoedd sy’n dilyn o’r swm hwnnw:
- asedau yr oedd y sawl a fu farw yn berchen arnynt gyda rhywun arall (‘asedau ar y cyd’) ac sy’n cael eu trosglwyddo i’r perchennog sy’n goroesi
- rhoddion a wnaed yn y 7 mlynedd cyn iddynt farw
- asedau yr oedd ganddynt dramor (er enghraifft, eiddo mewn gwlad dramor neu arian mewn cyfrifon banc tramor)
- asedau mewn ymddiriedolaeth
Sut i gyfrifo’r gwerth net ar gyfer profiant
Tynnwch werth unrhyw ddyledion a oedd gan yr unigolyn a fu farw a chost yr angladd o’r gwerth gros ar gyfer profiant.
Peidiwch â chynnwys y dyledion a oedd ganddynt ar y cyd â rhywun arall, er enghraifft morgais ar eiddo ar y cyd.
Cael cymorth
Os nad ydych yn siwr a ddylech gynnwys rhywbeth yn y prisiad, gallwch ddarllen y canllawiau ar yr hyn sy’n cael ei ystyried yn rhodd.
Os ydych angen adrodd am fanylion llawn yr ystad i HMRC
Llenwch ac anfonwch ffurflen IHT400. Bydd angen i chi wneud hyn o fewn 12 mis i farwolaeth yr unigolyn a cyn i chi wneud cais am brofiant. Mae ‘manylion llawn’ yn golygu asesdau a dyledion yr ystad, unrhyw roddion a wnaed, ac unrhyw gymhorthion ac esemptiadau. Bydd y rhain yn rhoi cyfanswm gwerth yr ystad i chi. Weithiau bydd HMRC angen y manylion llawn hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddiant yn ddyledus.
Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus
Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus ar yr ystad, fel arfer bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o’r dreth cyn y cewch brofiant. Os byddwch yn ei thalu o’ch cyfrif banc eich hun, gallwch hawlio’r dreth yn ôl o’r ystad.
Beth fydd ei angen arnoch i wneud cais
Byddwch angen copi o’r dystysgrif marwolaeth os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- mi ddigwyddodd y farwolaeth y tu allan i Gymru neu Loegr
- mae gennych dystysgrif marwolaeth interim gan y crwner
Byddwch hefyd angen yr ewyllys wreiddiol, os oes un.