Ffioedd

Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i wneud cais am brofiant. Bydd yr angen i dalu ffi neu beidio yn dibynnu ar werth yr ystad.

Os yw gwerth yr ystad dros £5,000, y ffi gwneud cais yw £300.

Ni chodir ffi os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai.

Gallwch archebu copïau ychwanegol o’r ddogfen profiant am £1.50 yr un. Mae hyn yn golygu y gallwch eu hanfon at sefydliadau gwahanol ar yr un pryd.

Os yw profiant eisoes wedi’i ganiatáu, mae gwneud ail gais yn costio £20. Er enghraifft, os ydych am wneud cais fel ysgutor ar ôl ‘cadw’r hawl’ ar y cais cyntaf. Bydd rhaid i chi dalu’r ffi hyd yn oed os yw gwerth yr ystad yn £5,000 neu’n llai.

Cael help i dalu ffioedd

Mae’n bosibl y gallwch gael help i dalu’r ffi profiant a ffioedd eraill y llys os ydych ar incwm isel neu eich bod ar fudd-daliadau penodol.

Gallwch wneud cais ar-lein am help i dalu ffioedd neu lenwi ffurflen EX160 cyn gwneud cais am brofiant.

Os byddwch yn gwneud cais am brofiant ar-lein, bydd yn rhaid ichi dalu’r ffi lawn wrth wneud cais am brofiant. Byddwch yn cael ad-daliad yn nes ymlaen os bydd eich cais am help i dalu ffioedd yn llwyddiannus.

Ar ôl i chi wneud cais ar-lein am help i dalu ffioedd

Anfonwch eich rhif cyfeirnod help i dalu ffioedd ar-lein:

  • gyda ffurflen PA1P neu PA1A os ydych am wneud cais am brofiant drwy’r post (mae’r cyfeiriad ar y ffurflen)
  • gyda’ch dogfennau ategol, fel yr ewyllys, os ydych yn gwneud cais am brofiant ar-lein (rhoddir y cyfeiriad i chi yn eich cais)
  • dros e-bost i’r tîm help i dalu ffioedd, os ydych yn gwneud cais am brofiant drwy’r post neu ar-lein - rhowch ‘HWF/[enw llawn yr ymadawedig]/[dyddiad y farwolaeth]/cais am brofiant’ ym mlwch testun yr e-bost

Tîm help i dalu ffioedd profiant
probatehelpwithfees@justice.gov.uk

Os ydych yn gwneud cais yn defnyddio ffurflen EX160

Llenwch ffurflen EX160 a’i hanfon:

  • drwy’r post i’r gofrestrfa brofiant genedlaethol yn Newcastle – rhowch nodyn yn dweud eich bod yn gwneud cais am brofiant
  • drwy e-bost at y tîm help i dalu ffioedd - rhowch ‘HWF/[enw llawn yr ymadawedig]/[dyddiad y farwolaeth]/cais am brofiant’ yn llinell testun yr e-bost

Tîm help i dalu ffioedd profiant
probatehelpwithfees@justice.gov.uk