Help i dalu ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd

Gallwch wneud cais i gael gostyngiad ar ffi llys neu dribiwnlys. Gallwch wneud hyn cyn neu ar ôl i chi dalu’r ffi. 

Os ydych wedi talu’r ffi yn barod, gallwch wneud cais i gael arian yn ôl os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi talu’r ffi yn ystod y 3 mis diwethaf
  • roeddech yn gymwys i gael help pan wnaethoch dalu’r ffi

Mae yna reolau gwahanol yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cymhwysedd

Mae p’un a ydych yn gymwys yn dibynnu ar:

  • faint o arian sydd gennych wedi’i gynilo
  • pa fudd-daliadau rydych yn eu cael
  • eich incwm

Eich cynilion

Mae’n rhaid bod gennych lai na’r uchafswm o gynilion i fod yn gymwys. Os oes gennych bartner, mae’n rhaid ichi gynnwys eu cynilion nhw hefyd.

Os ydych chi a’ch partner yn 65 oed neu’n iau, mae’r uchafswm o gynilion y gallwch gael yn dibynnu ar faint yw ffi’r llys neu dribiwnlys.

Er enghraifft, gallwch fod â:

  • hyd at £4,250 wedi’i gynilo os yw eich ffi yn £1,420 neu’n llai
  • hyd at £16,000 wedi’i gynilo os yw eich ffi dros £7,000

Mae’r rhan fwyaf o ffioedd llys a thribiwnlys yn llai na £1,420.

Os ydych chi neu eich partner yn 66 oed neu drosodd, gallwch gael hyd at £16,000 wedi’i gynilo, waeth faint yw eich ffi.

I wirio faint o gynilion allwch gael, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd ‘Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd’ sydd wedi’i gynnwys gyda ffurflen EX160.

Budd-daliadau rydych yn eu cael

Gallwch gael gostyngiad ar eich ffi os ydych chi’n hawlio un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Cynhwysol (a’ch bod yn ennill llai na £6,000 y flwyddyn)
  • Credyd Pensiwn (Credyd Gwarant)

Hefyd, mae’n rhaid bod gennych lai na’r uchafswm o gynilion. Gan amlaf, £4,250 yw hyn.

Eich incwm

Mae eich incwm yn cynnwys unrhyw beth rydych yn ei ennill cyn treth ac unrhyw daliadau eraill rydych yn eu cael.

Pan fyddwch yn gwneud cais, mae’n rhaid i chi nodi naill ai:

  • eich incwm ar gyfer y mis calendr diwethaf - er enghraifft, os ydych yn gwneud cais ym mis Ionawr, rhowch eich incwm ar gyfer mis Rhagfyr
  • eich incwm ar gyfartaledd dros y 3 mis calendr diwethaf - er enghraifft, os ydych yn gwneud cais ym mis Ebrill, rhowch eich incwm ar gyfartaledd ar gyfer Ionawr, Chwefror a Mawrth.

Rhowch fanylion yr incwm lleiaf.

Gallwch gael gostyngiad ar eich ffi os yw eich incwm yn:

  • £1,420 neu lai, os ydych yn sengl 
  • £2,130 neu lai, os oes gennych bartner

Ar gyfer pob plentyn sydd gennych, gall eich incwm fod:

  • £425 yn fwy ar gyfer plant sydd rhwng 0 a 13 oed
  • £710 yn fwy ar gyfer plant sy’n 14 oed a throsodd

Er enghraifft, os oes gennych bartner a dau o blant sy’n 7 a 5 oed, gall eich incwm fod yn hyd at £2,980.

Hefyd, mae’n rhaid bod gennych lai na’r uchafswm o gynilion. Gan amlaf, £4,250 yw hyn.

Os ydych yn ennill mwy na hyn, efallai y gallwch gael gostyngiad ar eich ffi. Mae hyn yn dibynnu ar faint yw eich ffi llys.

I wirio faint o gynilion allwch gael, cyfeiriwch at y cyfarwyddyd ‘Sut i wneud cais am help i dalu ffioedd’ sydd wedi’i gynnwys gyda ffurflen EX160.

Sut i wneud cais

Os oes gofyn i chi dalu mwy nag un ffi, mae’n rhaid i chi wneud cais ar wahân am help i dalu pob ffi.

Os ydych angen help i dalu ffioedd y Llys Gwarchod, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Yn hytrach, llenwch ffurflen COP44A a’i chyflwyno gyda’ch cais i’r llys.

Gwneud cais ar-lein

Gwnewch gais am help i dalu ffioedd pan fyddwch yn gwneud eich cais i’r llys.

Dechrau nawr

Gwneud cais drwy’r post

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen EX160 i gael help i dalu ffioedd llysoedd a thribiwnlysoedd.

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o’r ffurflen drwy gysylltu â’ch llys agosaf.

Cyflwynwch eich cais am help i dalu ffioedd yr un pryd â’ch cais i’r llys. Anfonwch y ddwy ffurflen i’r cyfeiriad sydd wedi’i nodi ar y cais i’r llys.

Os ydych yn gwneud cais i gael gostyngiad ar ffi rydych eisoes wedi’i thalu, anfonwch eich cais am help i dalu ffioedd i’r llys neu’r tribiwnlys lle gwnaethoch dalu’ch ffi.

Os ydych angen help i wneud cais

Help gyda’ch cais

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar ba swyddfa llys neu dribiwnlys rydych yn gwneud cais iddo. Er enghraifft, os ydych yn gwneud cais am ysgariad gallwch gysylltu â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd i gael mwy o wybodaeth am gael help i dalu am eich cais am ysgariad. Darganfyddwch pa lys neu dribiwnlys y dylech gysylltu ag o.

Help i wneud cais ar-lein

Cysylltwch â We Are Group os ydych eisiau gwneud cais ond nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu nid ydych yn teimlo’n ddigon hyderus i ddefnyddio’r rhyngrwyd.
 

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau