Sut i wneud cais

Bydd arnoch angen y canlynol i wneud cais am ysgariad:

  • eich enw a’ch cyfeiriad llawn chi ac enw a chyfeiriad llawn eich gŵr neu’ch gwraig
  • eich tystysgrif priodas wreiddiol neu gopi wedi’i ardystio (a chyfieithiad wedi’i ardystio os nad yw’r dystysgrif yn Saesneg)
  • prawf eich bod wedi newid eich enw os ydych wedi ei newid ers i chi briodi - er enghraifft, eich tystysgrif priodas neu weithred newid enw

Gofynnir am gyfeiriad cyfredol eich gŵr neu’ch gwraig. Mae hyn fel bod y llys yn gallu anfon copi o’r cais am ysgariad atynt. Darllenwch beth i’w wneud os nad ydych yn gwybod beth yw cyfeiriad eich gŵr neu’ch gwraig.

Os byddwch yn darparu cyfeiriad e-bost eich gŵr neu’ch gwraig, bydd y llys yn anfon y papurau ysgaru atynt trwy e-bost. Os na fyddwch yn darparu cyfeiriad e-bost, bydd y papurau yn cael eu hanfon drwy’r post.

Ffi

Mae ffi o £593 i wneud cais am ysgariad. Mae’r ffordd y byddwch yn talu yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais. Ni fydd eich ffi yn cael ei had-dalu ar ôl i’r hysbysiad bod eich cais am ysgariad wedi cychwyn gael ei anfon atoch.

Os oes arnoch angen help i dalu’r ffi

Efallai y gallwch gael help i dalu’r ffi os ydych yn cael budd-daliadau neu os ydych ar incwm isel. Gallwch wneud cais am yr help hwn ar-lein neu drwy lenwi ffurflen gais bapur.

Os byddwch yn gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein, byddwch yn cael cyfeirnod. Rhowch y cyfeirnod hwnnw pan fyddwch yn gwneud cais am ysgariad fel na fydd rhaid ichi dalu’r ffi ymlaen llaw.

Os byddwch yn defnyddio ffurflen papur i wneud cais am help i dalu ffioedd, ni fyddwch yn cael cyfeirnod. Os nad ydych eisiau talu’r ffi ymlaen llaw, gwnewch gais am ysgariad trwy’r post a chynnwys eich ffurflen bapur am help i dalu ffioedd gyda’ch cais am ysgariad.

Yna gwneir penderfyniad ynghylch eich cais am help i dalu ffioedd. Yn ddibynnol ar y penderfyniad a wneir, efallai gofynnir i chi dalu rhan o’r ffi, neu’r ffi lawn.

Os ydych yn gwneud cais ar y cyd am ysgariad ac rydych eisiau help i dalu’r ffi, rhaid i’r ddau ohonoch wneud cais am help. Os nad yw eich gŵr neu’ch gwraig yn gymwys neu ddim yn gwneud cais, bydd rhaid ichi dalu’r ffi lawn.

Gwneud cais ar-lein neu barhau â chais sy’n bodoli’n barod

Bydd arnoch angen cerdyn debyd neu gredyd i wneud cais ar-lein.

Gwneud cais nawr

Os bu ichi gychwyn gwneud cais cyn 6 Ebrill 2022

Mewngofnodwch i barhau â chais a gychwynnwyd cyn 6 Ebrill 2022.

Os oes arnoch angen help i wneud cais ar-lein

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o help sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cyfarwyddyd ar sut i wneud cais

Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Rhif ffôn ar gyfer siaradwyr Cymraeg: 0300 303 0654
Sgwrsio dros y we
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am gost galwadau

Ffurflen ar-lein

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd neu os nad ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r rhyngrwyd

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

Gwneud cais drwy’r post

Llenwch ffurflen gais am ysgariad D8 i gychwyn cais am ysgariad.

Gallwch gael cymorth i lenwi’r ffurflen mewn swyddfa Cyngor ar Bopeth.

Anfonwch gopi o’r ffurflen i:

Gwasanaeth Ysgariadau a Diddymiadau GLlTEF
Blwch Post 13226
Harlow
CM20 9UG

Cadwch gopi o’r ffurflen i chi eich hun.

Sut i dalu

Gallwch dalu un ai gyda:

  • cherdyn debyd neu gredyd - Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn eich ffonio neu’n anfon e-bost atoch gyda’r manylion talu
  • siec - yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’