Gwirio a allwch gael ysgariad

Gallwch gael ysgariad yng Nghymru neu Loegr os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi bod yn briod ers mwy na blwyddyn
  • mae eich perthynas wedi chwalu’n gyfan gwbl
  • mae eich priodas wedi’i chydnabod yn gyfreithiol yn y DU (gan gynnwys priodas o’r un rhyw)

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn dod â phartneriaeth sifil i ben, darllenwch y cyfarwyddyd dod â phartneriaeth sifil i ben.

Os nad ydych eisiau ysgariad, gallwch gael ymwahaniad cyfreithiol fel y gallwch fyw ar wahân heb ddod â’r briodas i ben. Efallai y byddwch hefyd yn gallu dirymu’r briodas. Gallwch wneud cais am ymwahaniad neu ddirymiad yn ystod blwyddyn gyntaf eich priodas.

Mae’r broses yn wahanol os ydych eisiau cael ysgariad yn Yr Alban neu gael ysgariad yng Ngogledd Iwerddon.