Cyn ichi wneud cais

Rhaid i chi benderfynu p’un a ydych eisiau gwneud cais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig ynteu wneud cais ar eich pen eich hun.

Fel arfer mae’n cymryd o leiaf 7 mis i gael ysgariad. Mae hyn yr un peth ar gyfer ceisiadau ar y cyd a cheisiadau unigol.

Gwneud cais ar y cyd gyda’ch gŵr neu’ch gwraig

Gallwch wneud cais ar y cyd os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • mae’r ddau ohonoch yn cytuno y dylech gael ysgariad
  • nid ydych mewn perygl o gam-drin domestig

Bydd angen ichi benderfynu os ydych eisiau gwneud cais ar-lein neu drwy’r post. Bydd angen i’ch gŵr neu eich gwraig ddefnyddio’r un dull i wneud cais.

Bydd rhaid i’r ddau ohonoch gadarnhau ar wahân eich bod eisiau parhau gyda’r cais am ysgariad ym mhob cam o’r broses.

Os bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn rhoi’r gorau i ymateb, byddwch yn gallu parhau gyda’r cais am ysgariad fel unig geisydd.

Os ydych eisiau gwneud cais am help i dalu’r ffi ysgariad, rhaid i’r ddau ohonoch fod yn gymwys.

Gwneud cais am ysgariad ar eich pen eich hun

Gallwch wneud cais fel unig geisydd os yw un o’r ddau beth canlynol yn berthnasol:

  • nid yw eich gŵr neu’ch gwraig yn cytuno i gael ysgariad
  • nid ydych yn meddwl y bydd eich gŵr neu’ch gwraig yn cydweithredu neu’n ymateb i hysbysiadau gan y llys

Bydd rhaid ichi gadarnhau eich bod eisiau parhau gyda’r cais am ysgariad ym mhob cam o’r broses.

Trefniadau ar gyfer plant, arian ac eiddo

Gallwch chi a’ch gŵr neu’ch gwraig ddewis sut i benderfynu ar:

Gallwch hefyd rannu eich arian a’ch eiddo.

Fel arfer, gallwch osgoi mynd i wrandawiadau llys os ydych yn cytuno ar drefniadau plant, arian ac eiddo.

Cael help neu gyngor

Gallwch gael cyngor ar waith papur cyfreithiol a gwneud trefniadau gan:

Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os ydych angen cyngor cyfreithiol.

Os ydych wedi priodi â mwy nag un person

Cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaethau Ysgaru os ydych wedi priodi â mwy nag un person (amlbriodas).