Os nad oes gan eich gŵr neu’ch gwraig alluedd meddyliol

Gallwch wneud cais am ysgariad os nad oes gan eich gŵr neu’ch gwraig ‘alluedd meddyliol’ ac ni allant gytuno i ysgariad na chymryd rhan yn yr achos ysgaru.

Bydd eich gŵr neu’ch gwraig angen rhywun i wneud penderfyniadau iddynt yn ystod yr ysgariad. Gelwir yr unigolyn sy’n gweithredu ar eu rhan yn ‘cyfaill cyfreitha’. Gall fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind agos neu’n rhywun arall sy’n gallu eu cynrychioli.

Nid oes gan eich gŵr neu’ch gwraig gyfaill cyfreitha

Os nad oes rhywun addas sy’n fodlon bod yn gyfaill cyfreitha iddynt, gallwch wneud cais i’r llys benodi cyfaill cyfreitha ar eu cyfer.

Gall y Cyfreithiwr Swyddogol gytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich gŵr neu’ch gwraig pan nad oes rhywun arall i wneud hyn (‘cyfaill cyfreitha fel dewis olaf’).

Sut i wneud cais

  1. Gwiriwch nad oes rhywun arall sy’n addas neu sy’n fodlon gweithredu fel cyfaill cyfreitha eich gŵr neu’ch gwraig.

  2. Gwiriwch fod arian ar gael ar gyfer unrhyw gostau bydd rhaid i’r Cyfreithiwr Swyddogol eu talu. Efallai bydd eich partner yn gallu cael cymorth cyfreithiol.

  3. Rhowch fanylion meddyg/gweithiwr proffesiynol meddygol arall eich gŵr neu’ch gwraig i’r llys, fel y gellir gofyn am dystysgrif galluedd.

Os bydd y Cyfreithiwr Swyddogol yn cytuno i weithredu fel cyfaill cyfreitha eich gŵr neu wraig, byddwch yn gallu gwneud cais am ysgariad.

Cysylltu â staff y Cyfreithiwr Swyddogol

Anfonwch e-bost neu ffoniwch y tîm cyfraith breifat os oes gennych ymholiad am ysgaru rhywun sydd heb alluedd meddyliol. Ni allant ateb cwestiynau cyffredinol am ysgaru.

Y Cyfreithiwr Swyddogol - tîm cyfraith deulu breifat
ospt.dsm@offsol.gsi.gov.uk
Rhif ffôn: 020 3681 2754
Gwybodaeth am brisiau galwadau