Gwneud penderfyniadau dros rywun

Neidio i gynnwys y canllaw

Pryd y gallwch wneud penderfyniadau dros rywun

Gall rhywun eich dewis i wneud a gweithredu penderfyniadau penodol ar eu rhan.

Medrant ofyn i chi wneud hyn:

  • nawr – er enghraifft, pan fyddant ar wyliau
  • yn y dyfodol – er enghraifft, os ydynt yn colli galluedd meddyliol i wneud eu penderfyniadau eu hunain

Gallwch hefyd wneud cais i’r llys i helpu rhywun i wneud penderfyniadau os nad oes ganddynt alluedd meddyliol nawr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pryd y gall rhywun eich dewis

Rhaid i berson fod â galluedd meddyliol pan fyddant yn eich dewis i’w helpu i wneud penderfyniadau tymor byr neu dymor hir.

Cymorth tymor byr

Gallwch gael eich penodi i wneud penderfyniadau am arian neu eiddo rhywun am gyfnod penodol – er enghraifft, tra bydd y person ar wyliau.

Medrant eich penodi naill ai drwy:

  • atwrneiaeth arhosol ar gyfer ‘eiddo a materion ariannol’ – bydd y person yn dweud pryd y bydd yn dechrau ac yn dod i ben
  • ‘atwrneiaeth gyffredin’ – gallwch ond defnyddio’r pŵer hwn tra bydd gan y person alluedd meddyliol

I wneud atwrneiaeth gyffredin, bydd angen i’r person sy’n eich penodi brynu dogfen o siop bapur newydd neu defnyddio cyfreithiwr.

Cymorth tymor hir

Gellir eich penodi drwy atwrneiaeth arhosol i helpu rhywun i wneud penderfyniadau dydd i ddydd ar:

  • arian ac eiddo – gan ddechrau ar unrhyw adeg, neu pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol
  • iechyd a lles – gan ddechrau pan nad oes ganddynt alluedd meddyliol

Gallwch hefyd helpu rhywun gyda phenderfyniadau dydd i ddydd yn defnyddio atwrneiaeth barhaus a wnaed cyn 1 Hydref 2007.

Wrth wneud cais i’r llys

Gwneud cais i’r llys i helpu rhywun heb alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau untro’n unig, neu rai tymor hir

Dylid gwirio a oes gan rywun atwrnai neu ddirprwy’n barod i’w helpu i wneud penderfyniadau, cyn gwneud cais. Os oes ganddynt atwrnai neu ddirprwy, dylech ofyn iddyn nhw’n hytrach am gymorth.

Penderfyniadau untro’n unig

Rhaid gofyn i’r Llys Gwarchod wneud:

Os yw’r penderfyniad yn un am driniaeth feddygol, rhaid i chi ystyried unrhyw ewyllys byw (penderfyniad ymlaen llaw) y mae’r person wedi ei wneud.

Cymorth tymor hir

Dylid gwneud cais i’r Llys Gwarchod i helpu rhywun i wneud penderfyniadau tymor hir ar:

  • arian ac eiddo – fel ‘dirprwy eiddo a materion ariannol’
  • iechyd a lles – fel ‘dirprwy lles personol’