Trosolwg

Gallwch wneud penderfyniadau ar ran rhywun os byddant yn eich penodi gan ddefnyddio atwrneiaeth arhosol (LPA). Dylech eu cefnogi i wneud eu penderfyniadau eu hunain pan fo hynny’n bosibl.

Gelwir yr unigolyn sy’n eich penodi yn ‘rhoddwr’. Chi yw ei ‘atwrnai’.

Nid oes angen unrhyw brofiad cyfreithiol arnoch i weithredu fel atwrnai.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai

Paratowch drwy siarad â’r rhoddwr fel eich bod yn barod i wneud penderfyniadau er eu lles gorau. Er enghraifft, gofynnwch am eu cynlluniau ar gyfer eu harian neu sut y maent am gael gofal os ydynt yn mynd yn ddifrifol wael.

Gwnewch yn siŵr bod yr LPA wedi’i chofrestru – ni allwch ddechrau gweithredu hyd nes y bydd hyn wedi’i wneud. Gall gymryd hyd at 16 wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol. Bydd LPA gofrestredig yn cael ei stampio gyda ‘wedi’i dilysu gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus’.

Gwiriwch y mathau o benderfyniadau y gallwch wneud a phryd y gallwch ddechrau gweithredu fel:

Ar ôl i chi ddechrau gweithredu fel atwrnai

Mae’n rhaid i chi:

  • ddilyn unrhyw ddewisiadau a chyfarwyddiadau (a elwir yn ‘cyfyngiadau ac amodau’) y mae’r rhoddwr wedi’u cynnwys yn yr LPA
  • gweithredu er budd gorau’r rhoddwr a’u helpu i wneud eu penderfyniadau eu hunain lle bo modd
  • cadw arian ac eiddo’r rhoddwr ar wahân i’ch eiddo a’ch arian chi (oni bai eich bod eisoes yn rhannu cyfrif banc)
  • parchu cyfrinachedd y rhoddwr
  • rhoi gwybod i’r rhoddwr a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) os nad ydych chi am weithredu fel atwrnai mwyach
  • rhoi gwybodaeth i’r OPG am sut mae’r LPA yn cael ei defnyddio, os gofynnir i chi wneud hynny
  • cadw cofnod o’r hyn a wnewch

Ni ddylech:

  • ddefnyddio’ch swyddogaeth er eich lles eich hun
  • gadael i bobl eraill ddefnyddio’r LPA i wneud penderfyniadau
  • defnyddio’r LPA oni bai ei bod wedi’i chofrestru

Darllenwch fwy am sut i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall gan gynnwys sut i gael help i wneud penderfyniadau anodd. Mae modd gwirio eich penderfyniadau.

Os nad chi yw’r unig atwrnai

Bydd yr LPA yn dweud wrthych p’un a allwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag atwrneiod eraill.

Gwneud penderfyniadau ar y cyd ac yn unigol

Mae hyn yn golygu y gallwch wneud penderfyniadau ar eich pen eich hun neu gydag atwrneiod eraill. Gallwch rannu tasgau. Os na all un o’r atwrneiod weithredu, yna gellir dal gwneud penderfyniadau hebddynt.

Gwneud penderfyniadau ar y cyd

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar y penderfyniad. Os na all un o’r atwrneiod weithredu mwyach, yna ni all unrhyw un o’r atwrneiod eraill weithredu ychwaith oni bai bod y rhoddwr yn nodi fel arall yn eu cyfyngiadau ac amodau (a elwir weithiau’n ‘dewisiadau a chyfarwyddiadau’).

Gwneud penderfyniadau ar y cyd ac ar y cyd ac yn unigol

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r atwrneiod gytuno ar rai penderfyniadau penodol ond gallant wneud penderfyniadau eraill ar eu pen eu hunain. Os na all un o’r atwrneiod weithredu mwyach, ni fydd yr atwrneiod eraill yn gallu gwneud y penderfyniadau ar y cyd hebddynt oni bai bod y rhoddwr yn nodi fel arall yn eu cyfyngiadau ac amodau (a elwir weithiau’n ‘dewisiadau a chyfarwyddiadau’).

Er enghraifft, gallai’r rhoddwr ddatgan bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno os byddant am werthu cartref y rhoddwr, ond y gallant wneud penderfyniadau eraill ar eu pen eu hunain.

Darllenwch fwy am beth i’w wneud os byddwch yn gwneud penderfyniadau ar y cyd â rhywun sy’n rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai.