Pan ddaw atwrneiaeth arhosol i ben

Gall atwrneiaeth arhosol (LPA) ddod i ben mewn sawl ffordd. Fel arfer daw i ben oherwydd bod y rhoddwr wedi marw. Rhaid i chi roi gwybod am farwolaeth rhoddwr i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Mae yna hefyd ffyrdd y gall LPA ddod i ben tra bydd rhoddwr dal yn fyw.

Rhoi’r gorau i weithredu cyn i’r rhoddwr farw

Gallwch ddewis rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai – gelwir hyn weithiau yn ‘ildio atwrneiaeth’.

Hefyd, ceir rhai achosion lle mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai.

Os byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai, bydd unrhyw atwrneiod wrth gefn a restrir yn yr LPA yn cymryd eich lle.

Os nad oes rhai wrth gefn ar gael, gall fod ffyrdd eraill o helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.

Os ydych chi’n dewis rhoi’r gorau i weithredu

Llenwch ac anfonwch ffurflen hysbysu at:

  • y rhoddwr - os nad yw’r LPA wedi’i chofrestru

  • y rhoddwr ac OPG (i’r cyfeiriad ar y ffurflen) - os yw’r LPA wedi’i chofrestru

  • unrhyw atwrneiod eraill a benodir ar yr LPA

Pan fydd yn rhaid i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai

Rhaid i chi roi’r gorau i weithredu fel atwrnai:

  • os bydd y rhoddwr yn tynnu eich enw oddi ar eu LPA - a elwir weithiau yn ‘diddymu atwrnai’

  • os byddwch yn colli galluedd meddyliol ac yn methu â gwneud penderfyniadau mwyach

  • rydych yn atwrnai ar gyfer eiddo a materion ariannol a’ch bod yn mynd yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyledion

  • rydych yn briod â’r rhoddwr neu mewn partneriaeth sifil ag ef/â hi a’ch bod yn cael ysgariad neu ddirymiad (oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i weithredu fel atwrnai)

  • rydych yn atwrnai ar y cyd ac mae’r atwrnai arall yn rhoi’r gorau i weithredu, oni bai bod yr LPA yn dweud y gallwch barhau i wneud penderfyniadau

Pan fydd y rhoddwr yn terfynu’r LPA

Gall y rhoddwr ddod â’r LPA i ben os oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.

Bydd angen iddynt anfon y canlynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):

  • yr LPA wreiddiol
  • datganiad ysgrifenedig o’r enw ‘gweithred diddymu’

Gweithred diddymu

Defnyddiwch y geiriad canlynol ar gyfer y weithred diddymu. Rhowch y manylion perthnasol yn y cromfachau sgwâr.

“Gwneir y weithred diddymu hon gan [enw’r rhoddwr] o [cyfeiriad y rhoddwr].

1: Mi wnes i ganiatáu atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles (dilëwch fel sy’n briodol) ar [dyddiad llofnodi’r atwrneiaeth arhosol gan y rhoddwr] yn penodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai/atwrneiod.

2: Rwy’n diddymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod a roddwyd ganddi.

Llofnodwyd a’i danfon fel gweithred [llofnod y rhoddwr]

Dyddiad llofnodi [dyddiad]

Tystiwyd gan [llofnod tyst]

Enw llawn y tyst [enw’r tyst]

Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]”