Atwrneiod iechyd a lles

Fel atwrnai iechyd a lles, byddwch yn gwneud (neu’n helpu’r rhoddwr i wneud) penderfyniadau am bethau fel:

  • trefn ddyddiol y rhoddwr, er enghraifft ymolchi, gwisgo a bwyta
  • gofal meddygol
  • lle mae’r rhoddwr yn byw

Dim ond pan nad yw’r rhoddwr yn meddu ar alluedd meddyliol y gallwch wneud penderfyniadau ar ei ran.

Rhaid i chi ddweud wrth bobl sy’n ymwneud â gofal y rhoddwr pan fyddwch yn dechrau gwneud penderfyniadau. Mae hyn yn cynnwys:

  • ffrindiau a theulu’r rhoddwr

  • meddyg a staff gofal iechyd eraill y rhoddwr

  • gweithwyr gofal, gweithiwr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol eraill y rhoddwr

Efallai y byddwch angen defnyddio eich atwrneiaeth arhosol i brofi i staff y gallwch weithredu ar ran y rhoddwr.

Defnyddio arian y rhoddwr

Efallai y bydd angen i chi wario arian y rhoddwr ar bethau sy’n cynnal neu’n gwella ansawdd ei fywyd. Gall hyn gynnwys:

  • dillad newydd neu drin gwallt
  • addurno ei gartref neu ei ystafell mewn cartref gofal
  • talu am gymorth ychwanegol fel y gall y rhoddwr fynd allan yn amlach, er enghraifft, i ymweld â ffrindiau neu berthnasau neu i fynd ar wyliau

Mae’n rhaid i chi ofyn am arian gan yr unigolyn sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.

Gwrthod neu gydsynio i driniaeth

Gwiriwch yr atwrneiaeth arhosol (LPA) am gyfarwyddiadau ynghylch gwrthod neu gydsynio i driniaeth.

Bydd angen i chi:

  • ddangos yr LPA i’r staff gofal
  • llofnodi ffurflenni caniatâd meddygol
  • gwneud penderfyniadau er lles gorau’r rhoddwr

Ni allwch wneud penderfyniadau am driniaeth feddygol y rhoddwr bob amser, er enghraifft os yw’r rhoddwr wedi gwneud ewyllys byw neu wedi’i gadw mewn ysbyty am resymau iechyd meddwl.

Ewyllysiau byw (‘penderfyniadau ymlaen llaw’)

Mae hwn yn ddatganiad cyfreithiol gan y rhoddwr ynghylch pa driniaethau meddygol nad oes arno eu heisiau. Bydd angen i chi roi hwn i’r staff gofal ynghyd â’r LPA.

Gwneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth

Efallai y bydd angen i chi wneud cais am benderfyniad unwaith ac am byth gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniad am driniaeth feddygol:

  • os yw’r ewyllys byw a’r LPA yn rhoi cyfarwyddiadau gwahanol
  • mae’r staff meddygol neu ffrindiau a theulu’r rhoddwr yn anghytuno ynghylch a ddylid parhau â’r driniaeth