Rheoli atwrneiaeth arhosol
Defnyddio atwrneiaeth arhosol
Os ydych chi’n atwrnai neu’n rhoddwr ar LPA, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:
- weld crynodeb un tudalen o LPA
- gadael i gwmnïau neu sefydliadau weld crynodeb un tudalen o LPA
- gwirio pwy sydd wedi cael mynediad i LPA
- gweld sut mae pobl a enwir ar LPA yn defnyddio’r gwasanaeth
- gofyn am allwedd actifadu os nad ydych wedi cael un
- gofyn am allwedd actifadu newydd os ydych wedi colli’ch un chi neu os yw wedi dod i ben
Dim ond ar gyfer LPA a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.
Cyn i chi ddechrau
Mae’n rhaid eich bod chi wedi cofrestru atwrneiaeth arhosol (LPA) cyn y gallwch ddechrau gweithredu fel atwrnai.
Bydd angen i chi greu cyfrif y tro cyntaf y byddwch yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Yna bydd angen i chi ychwanegu LPA i’ch cyfrif. Byddwch angen:
- cyfeirnod yr LPA
- eich allwedd actifadu
Os cafodd yr LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 17 Gorffennaf 2020, bydd eich allwedd actifadu yn y llythyr a gawsoch i ddweud wrthych bod yr LPA wedi’i chofrestru.
Mae allwedd actifadu yn ddilys am 1 blwyddyn.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein neu agorwch gyfrif ar-lein newydd
Os cafodd yr LPA ei chofrestru cyn 1 Ionawr 2016
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer LPA a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 2016. Yn hytrach, bydd angen i chi ddangos yr LPA bapur i bobl neu sefydliadau.