Cofnodion a dyletswyddau atwrnai

Cadwch gofnod o:

  • benderfyniadau pwysig rydych yn eu gwneud a phryd fyddwch yn eu gwneud, er enghraifft gwerthu cartref y rhoddwr neu gytuno i driniaeth feddygol
  • asedau ac incwm y rhoddwr a sut rydych yn gwario eu harian - os ydych yn atwrnai eiddo a materion ariannol

Dylech gynnwys manylion pwy y gwnaethoch ofyn am gyngor ganddynt ac unrhyw anghydfodau.

Peidiwch a chynnwys penderfyniadauau bychan a wneir bob dydd.

Treuliau

Gallwch ond hawlio treuliau am bethau y mae’n rhaid i chi wneud fel rhan o’ch rôl fel atwrnai, er enghraifft:

  • cyflogi gweithiwr proffesiynol i wneud pethau fel llenwi ffurflen dreth y rhoddwr
  • costau teithio
  • deunydd ysgrifennu
  • costau postio
  • galwadau ffôn

Gellir gorchymyn eich bod yn ad-dalu arian y rhoddwr os byddwch yn ei gamddefnyddio neu’n gwneud penderfyniadau er eich lles chi.

Cadwch eich derbynebau ac anfonebwch y rhoddwr am eich treuliau. Bydd yr arian yn cael ei dalu gan bwy bynnag sy’n gyfrifol am arian y rhoddwr.

Gwiriadau ac ymweliadau

Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a’r Llys Gwarchod wirio eich penderfyniadau. Efallai y byddant yn:

  • trefnu ymweld â chi a’r rhoddwr gyda’ch gilydd, neu’r rhoddwr ar ei ben ei hun

  • cysylltu â phobl eraill megis teulu, banc neu weithwyr gofal y rhoddwr

Gallant ymchwilio a’ch stopio rhag gweithredu fel atwrnai os, er enghraifft:

  • rydych wedi gwneud rhywbeth mae’r atwrneiaeth arhosol (LPA) yn dweud na allwch ei wneud

  • nid ydych wedi gwneud rhywbeth y mae’r LPA wedi eich cyfarwyddo i’w wneud

  • nid ydych wedi bod yn gweithredu er lles pennaf y rhoddwr

  • rydych yn camddefnyddio arian y rhoddwr neu’n gwneud penderfyniadau er lles eich hun

  • rydych yn gwneud rhywbeth sy’n mynd yn groes i hawliau dynol neu hawliau sifil y rhoddwr

  • nid yw’r rhoddwr yn cael eu trin yn dda

  • gwnaeth y rhoddwr yr LPA dan bwysau neu fe’i twyllwyd i’w gwneud