Defnyddio atwrneiaeth arhosol
Profi eich bod yn atwrnai ar atwrneiaeth arhosol
Gall unrhyw gwmni neu sefydliad rydych yn delio ag o ar ran rhoddwr ofyn i chi brofi eich bod yn atwrnai ar atwrneiaeth arhosol (LPA). Gallwch
- adael iddynt weld crynodeb ar-lein o’r LPA
- dangos yr LPA gofrestredig wreiddiol iddynt
- dangos copi ardystiedig o’r LPA iddynt
Efallai y byddant hefyd yn gofyn i chi brofi manylion eraill, megis:
- eich enw, cyfeiriad a dyddiad geni
- enw neu gyfeiriad y rhoddwr
- gwybodaeth y mae’r sefydliad yn ei defnyddio, megis rhif cyfrif
Gwiriwch pa fath o brawf sydd ei angen arnynt, a sut y dylech ei rannu gyda nhw, cyn i chi anfon unrhyw ddogfennau.
Rhannu crynodeb ar-lein o’r LPA
Os cafodd eich LPA ei chofrestru ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016, gallwch adael i gwmnïau a sefydliadau weld crynodeb ar-lein o fersiwn ddiweddaraf yr LPA.
Bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i gynhyrchu cod mynediad ar gyfer pob LPA.
Gall cwmnïau a sefydliadau ddefnyddio’r cod mynediad i weld crynodeb o’ch LPA sy’n cynnwys:
- os yw dal yn ddilys ac wedi’i chofrestru
- enw, cyfeiriad a dyddiad geni’r rhoddwr
- enwau, cyfeiriadau a dyddiadau geni’r atwrneiod
- sut y gwneir penderfyniadau gan yr atwrneiod
- cyfyngiadau ac amodau’r rhoddwr (a elwir weithiau’n ‘dewisiadau a chyfarwyddiadau’)
Mae cod mynediad yn ddilys am 30 diwrnod o’r dyddiad rydych yn ei greu. Mae’r cod yn cynnwys 13 nod ac yn dechrau gyda V.
Os byddwch yn rhoi’r cod mynediad anghywir i sefydliad, efallai na fyddant yn gallu dilysu penderfyniadau y gallwch wneud fel atwrnai.
Defnyddio fersiwn bapur o’r LPA
I brofi eich bod yn atwrnai ar yr LPA, gallwch ddangos fersiwn bapur cofrestredig neu gopi ardystiedig o’r LPA i gwmni neu sefydliad.