Ardystio copi o atwrneiaeth arhosol

Gallwch gadarnhau bod copi o’ch atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddilys drwy ei ‘ardystio’ os ydych yn dal i allu gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Gallwch chi neu eich atwrnai ddefnyddio copi ardystiedig i gofrestru eich LPA os nad yw’r ffurflen wreiddiol gennych chi.

Hefyd gall eich atwrnai ddefnyddio’r copi ardystiedig i brofi bod ganddo ganiatâd i wneud penderfyniadau ar eich rhan, er enghraifft, i reoli eich cyfrif banc.

Sut i ardystio copi

Ysgrifennwch y testun canlynol ar waelod pob tudalen o’r copi:

“Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o’r dudalen gyfatebol yn yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol.”

Ar dudalen olaf y copi, rhaid i chi hefyd ysgrifennu:

“Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o’r atwrneiaeth arhosol.”

Rhaid i chi lofnodi a dyddio pob tudalen.

Ffyrdd eraill o ardystio copi

Gall y canlynol ardystio copïau o’ch LPA hefyd:

  • cyfreithiwr
  • person sydd ag awdurdod i wneud gweithgareddau notariol