Terfynu’ch atwrneiaeth arhosol

Gallwch derfynu’ch atwrneiaeth arhosol (LPA) eich hun - os oes gennych alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.

Rhaid i chi anfon y canlynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):

  • yr LPA wreiddiol
  • datganiad ysgrifenedig o’r enw ‘gweithred diddymu’

Defnyddiwch y geiriau canlynol ar gyfer y weithred diddymu. Newidiwch y geiriau yn y cromfachau sgwâr gyda’r manylion perthnasol.

Gweithred diddymu

“Mae’r weithred ddiddymu hon yn cael ei gwneud gan [eich enw] o [eich cyfeiriad].

1: Dyfarnais atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles (rhaid dileu fel sy’n briodol) ar [dyddiad llofnodi’r atwrneiaeth arhosol gennych] yn penodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a/ac [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai(atwrneiod).

2: Rwyf yn diddymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod sydd wedi’i ddyfarnu fel rhan ohoni.

Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [eich llofnod]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]”

Rhaid i chi allu gwneud eich penderfyniadau eich hun pan rydych yn terfynu’ch LPA.

Hefyd gallwch wneud cwyn os oes gennych bryderon am eich atwrnai, er enghraifft, os nad yw’n cyflawni ei gyfrifoldebau’n briodol.

Ffyrdd eraill y gall atwrneiaeth arhosol ddod i ben

Gall eich LPA ddod i ben os bydd eich atwrnai:

  • yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau - ‘colli galluedd meddyliol’
  • yn eich ysgaru chi neu’n rhoi terfyn ar eich partneriaeth sifil os yw’n ŵr, gwraig neu bartner i chi
  • yn dod yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyledion - os yw’n atwrnai eiddo a materion ariannol
  • yn cael ei atal gan y Llys Gwarchod
  • yn marw

Os bydd eich unig atwrnai’n marw

Bydd eich LPA yn dod i ben os bydd eich atwrnai’n marw ac os nad oes gennych chi unrhyw atwrneiod newydd. Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon y canlynol iddi:

  • yr LPA wreiddiol
  • pob copi ardystiedig o’r LPA
  • cyfeiriad dychwelyd ar gyfer anfon eich dogfennau’n ôl atoch

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Caiff eich LPA barhau os:

Os byddwch yn marw

Bydd eich LPA yn dod i ben yn awtomatig pan fyddwch yn marw. Bydd eich materion yng ngofal eich ysgutorion neu eich cynrychiolwyr personol wedyn, nid eich atwrnai.