Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Mae’n rhaid i chi (os oes gennych chi alluedd meddyliol) neu un o’ch atwrneiod roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y canlynol:

  • os ydych chi neu atwrnai yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad

  • os bydd atwrnai yn marw

Os ydych chi neu atwrnai yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad

Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’ch atwrnai yn newid eich enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.

Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’ch atwrnai yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.

Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen atwrneiaeth arhosol ei hun, gan y gallai hyn achosi iddi fod yn annilys.

Os bydd un o’ch atwrneiod yn marw

Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon y canlynol iddynt:

  • yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol
  • pob copi ardystiedig o’r atwrneiaeth arhosol
  • cyfeiriad dychwelyd er mwyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus anfon eich dogfennau yn ôl atoch

Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:

  • eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
  • nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
  • enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
  • y cyfeirnod ar eich atwrneiaeth arhosol