Gwneud atwrneiaeth arhosol

Gallwch wneud atwrneiaeth arhosol (LPA) ar-lein neu gan ddefnyddio ffurflenni papur.

Y naill ffordd neu’r llall, bydd rhaid i chi gael pobl eraill i lofnodi’r ffurflenni, gan gynnwys yr atwrneiod a’r tystion.

Gallwch gael rhywun arall i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu i lenwi’r ffurflenni papur ar eich rhan, er enghraifft, aelod o’r teulu, ffrind neu gyfreithiwr.

Rhaid i chi gofrestru eich LPA neu ni fydd eich atwrnai’n gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan.

Mae’n cymryd rhwng 8 a 10 wythnos i wneud LPA os nad oes camgymeriadau yn y cais. Fel arfer bydd yn gynt na hyn os byddwch yn gwneud a thalu am y cais ar-lein.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer LPAs a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr. Darllenwch fwy am wneud atwrneiaeth yn yr Alban ac am wneud atwrneiaeth yng Ngogledd Iwerddon.

Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig neu fod yn ddinesydd Prydeinig. Bydd eich LPA yn gyfreithiol rwymol yng Nghymru a Lloegr yn unig. Er enghraifft, os ydych yn gwneud LPA eiddo a materion ariannol, gellir ond ei defnyddio ar gyfer eiddo ac asedau yng Nghymru a Lloegr.

Gwneud LPA ar-lein

Bydd rhaid i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli’n barod i allu:

  • gwneud LPA
  • parhau gyda LPA rydych wedi dechrau’i gwneud yn barod

Gallwch wedyn:

  • gael help ac arweiniad ym mhob cam
  • cadw eich ffurflenni a’u cwblhau yn nes ymlaen
  • adolygu eich atebion a chywiro unrhyw gamgymeriadau

Rhaid i chi argraffu’r ffurflenni a’u llofnodi pan fyddwch wedi gorffen eu llenwi.

Dechrau Nawr

Os ydych wedi gwneud a chofrestru LPA yn barod, mae yna wasanaeth gwahanol ar gyfer defnyddio LPA.

Defnyddio’r ffurflenni papur

Lawrlwythwch y ffurflenni a’u hargraffu.

Llofnodi’r ffurflenni

Rhaid i chi lofnodi’r ffurflenni cyn eu hanfon. Hefyd rhaid i’r canlynol eu llofnodi:

  • yr atwrneiod
  • tystion
  • ‘darparwr tystysgrif’, sy’n cadarnhau eich bod yn gwneud yr LPA o ddewis a’ch bod yn deall beth rydych yn ei wneud

Rhaid i bawb lofnodi’r un ddogfen wreiddiol. Ni allant lofnodi copïau neu ddefnyddio llofnodion digidol.

Pwy sy’n gallu bod yn dyst neu’n ddarparwr tystysgrif

Rhaid i dystion a darparwyr tystysgrifau fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Caiff atwrneiod fod yn dystion i’w gilydd yn llofnodi, ond ni allant:

  • fod yn dystion i chi’n llofnodi
  • llofnodi fel y darparwr tystysgrif

Ni allwch fod yn dyst os mai chi yw’r unigolyn sy’n penodi atwrnai.

Cael help

Gofynnwch i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am yr help y gallwch ei gael os:

  • nad oes gennych gyfrifiadur neu argraffydd
  • rydych eisiau defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ond angen rhywfaint o help

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0300 123 1300
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus