Dewis eich atwrnai

Gallwch ddewis un neu fwy o bobl i fod yn atwrnai i chi. Os byddwch yn penodi mwy nag un, rhaid i chi benderfynu a fyddant yn gwneud penderfyniadau ar wahân neu gyda’i gilydd.

Pwy all fod yn atwrnai i chi

Rhaid i’ch atwrnai fod yn 18 oed neu’n hŷn. Gall fod yn:

  • berthynas
  • ffrind
  • gweithiwr proffesiynol, er enghraifft, cyfreithiwr
  • eich gŵr, eich gwraig neu eich partner

Rhaid i chi benodi rhywun sydd â’r galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun.

Nid oes rhaid i’ch atwrnai fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.

Wrth ddewis atwrnai, meddyliwch am y canlynol:

  • pa mor dda mae’n edrych ar ôl ei faterion ei hun, er enghraifft, ei arian
  • pa mor dda rydych yn ei adnabod
  • a ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau er budd gorau i chi
  • pa mor fodlon y bydd i wneud penderfyniadau ar eich rhan chi

Darllenwch am gyfrifoldebau atwrnai i’ch helpu gyda’ch penderfyniad.

Ni allwch ddewis rhywun sy’n destun Gorchymyn Rhyddhad Dyledion neu rywun sy’n fethdalwr os ydych yn gwneud atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer eiddo a materion ariannol.

Os oes mwy nag un atwrnai

Os ydych yn penodi mwy nag un person, rhaid i chi benderfynu a fyddant yn gwneud penderfyniadau:

  • ar wahân neu gyda’i gilydd - a elwir weithiau’n ‘ar y cyd ac yn unigol’ - sy’n golygu y gall atwrneiod wneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gydag atwrneiod eraill
  • gyda’i gilydd - a elwir weithiau’n ‘ar y cyd’ - sy’n golygu bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar y penderfyniad

Hefyd gallwch ddewis gadael iddynt wneud rhai penderfyniadau ‘ar y cyd’ ac eraill ‘ar y cyd ac yn unigol’.

Rhaid i atwrneiod sy’n cael eu penodi ar y cyd gytuno i gyd neu ni allant wneud y penderfyniad.

Atwrneiod wrth gefn

Pan rydych yn gwneud eich LPA gallwch enwebu pobl eraill i gymryd lle eich atwrnai neu eich atwrneiod os na fyddant yn gallu gweithredu ar eich rhan mwyach.