Adrodd pryder am atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
Gallwch adrodd am bryder os ydych yn pryderu am ymddygiad atwrnai, dirprwy neu warcheidwad. Rhain yw’r bobl a ddewiswyd i reoli arian, eiddo neu i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Adrodd pryder os yw’r unigolyn yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.
Pryd i adrodd am bryder
Dylech adrodd am bryder os ydych chi’n credu bod atwrnai, dirprwy neu warcheidwad:
- yn methu â gweithredu er budd pennaf y rhoddwr
- yn defnyddio arian neu eiddo’r rhoddwr yn y ffordd anghywir
- ddim yn gwneud eu swydd yn iawn
- yn cymryd mantais o’u swyddogaeth
- ddim yn dilyn rheolau cyfreithiol eu rôl
Nid oes arnoch angen prawf i adrodd pryder.
Dim ond mewn rhai achosion penodol y gall y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) gynnal ymchwiliad, sef pan nad oes gan yr unigolyn y gwneir penderfyniadau ar eu rhan y galluedd meddyliol i ddelio â’r mater eu hunain.
Pwy all adrodd am bryder
Gan unrhyw un adrodd am bryder, gan gynnwys:
- yr unigolyn sy’n cael eu cefnogi
- aelodau’r teulu neu ffrindiau
- unigolion proffesiynol, megis gweithwyr gofal neu staff mewn banc
- aelodau o’r cyhoedd
Gallwch adrodd am bryder hyd yn oed os nad yw’n effeithio arnoch chi’n uniongyrchol.
Ni fydd OPG yn dweud wrth yr atwrnai, dirprwy neu warcheidwad pwy sydd wedi adrodd amdanynt.
Os ydych chi’n adrodd ar ran awdurdod cyhoeddus, gwnewch eich gwiriadau diogelu chi eich hun yn gyntaf.
Gwybodaeth y gofynnir amdani
Pan fyddwch yn adrodd am bryder, gofynnir i chi roi:
- gwybodaeth am yr unigolyn y gwneir penderfyniadau ar eu rhan
- gwybodaeth am yr atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
- eich enw a’ch manylion cyswllt
- beth sydd wedi digwydd
- dyddiadau, symiau o arian neu enghreifftiau, os yw’r wybodaeth hon gennych
Gallwch dal adrodd pryder os nad yw’r holl wybodaeth uchod gennych.
Adrodd pryder ar-lein
Gofynnir cwestiynau i chi am yr unigolyn y gwneir penderfyniadau ar eu rhan. Fe gyfeirir atynt fel y ‘rhoddwr’ neu ‘P’.
Ffyrdd eraill y gallwch adrodd pryder
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein gallwch adrodd am bryder drwy:
- lenwi ffurflen a’i hanfon drwy e-bost neu drwy’r post
- ffonio OPG
- anfon e-bost
- anfon llythyr
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)
opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 0300
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 0300 123 1300
Galwadau o’r tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Dydd Mercher, 10am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus/Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi adrodd am bryder
Bydd OPG yn penderfynu a oes ganddynt yr awdurdod cyfreithiol i ymchwilio.
Efallai y byddant yn:
- cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth
- cysylltu â’r atwrnai, dirprwy neu warcheidwad
- penderfynu nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach
Efallai y bydd OPG yn cymryd camau cyfreithiol neu’n gwneud cais i’r Llys Gwarchod.