Trosolwg

Gallwch helpu i wneud, neu wneud penderfyniadau eich hun am eiddo ac arian rhywun os ydynt wedi eich penodi drwy ddefnyddio atwrneiaeth barhaus (EPA).

Gelwir y person wnaeth eich penodi yn ‘rhoddwr’ – chi yw ei ‘atwrnai’.

Rhaid i unrhyw benderfyniad a wnewch ar ran y rhoddwr fod ar sail eu lles gorau.

Bydd angen i chi wirio os yw’r rhoddwr wedi rhoi cyfarwyddiadau neu ganllawiau penodol i chi yn y ddogfen EPA fydd yn effeithio ar eich cyfrifoldebau.

Dim ond atwrniaethau parhaus a wnaed ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 y gellir parhau i’w defnyddio. Ar ôl y dyddiad hwnnw roedd rhaid i roddwyr wneud atwrneiaeth arhosol (LPA).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Defnyddio’r atwrneiaeth barhaus

Gallwch ddechrau defnyddio EPA ar unrhyw adeg os yw’r EPA yn gyfreithiol ac mae’r rhoddwr yn rhoi caniatâd i chi.

Byddwch yn gyfrifol am helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau am faterion ariannol. Gan ddibynnu ar eu cyfarwyddiadau, byddwch yn helpu gyda phethau fel:

  • arian a biliau
  • cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
  • eiddo a buddsoddiadau
  • pensiynau a budd-daliadau

Gallai fod atwrneiod eraill – os oes, dylech gadarnhau sut y mae’r rhoddwr eisiau i chi wneud penderfyniadau.

Rhaid i chi gofrestru’r EPA pan fydd y rhoddwr yn dechrau colli, neu eisoes wedi colli ei alluedd meddyliol. Mae hyn yn golygu na all wneud penderfyniad pan fo angen ei wneud oherwydd diffyg meddyliol.

Er hynny, mae’n rhaid i chi barhau i gynnwys y rhoddwr pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau lle bynnag y bo hynny’n bosib, a dim ond gwneud penderfyniadau drostynt sydd er eu lles gorau.

Rhoi’r gorau i fod yn atwrnai

Bydd yr EPA yn dod i ben os bydd y rhoddwr yn ei ganslo neu’n marw.

Gallwch ddewis rhoi’r gorau i fod yn atwrnai.

Efallai y bydd rhaid cynnal ymchwiliad os gwneir cwyn yn eich erbyn. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wneud cais i’r Llys Gwarchod i’ch atal.