Rhoi'r gorau i weithredu fel atwrnai

Byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu fel atwrnai i’r rhoddwr:

  • os bydd y rhoddwr yn marw – bydd yr atwrneiaeth barhaus (EPA) yn dod i ben yn awtomatig
  • os dewiswch roi’r gorau i fod yn atwrnai – a elwir weithiau’n ‘diddymu’ neu ‘ymwrthod’ atwrneiaeth
  • os byddwch yn datgan eich hun yn fethdalwr

Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn atwrnai rhaid i chi lenwi’r ffurflenni perthnasol a chyflwyno’r dogfennau perthnasol.

Os oedd rhaid gwneud penderfyniadau ar y cyd ag atwrneiod eraill ac mae un ohonoch yn rhoi’r gorau iddi, daw’r atwrneiaeth barhaus i ben yn awtomatig. Bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd arall i helpu’r rhoddwr i wneud penderfyniadau.

Os yw’r rhoddwr neu atwrnai arall yn marw

Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ac anfon yr EPA wreiddiol a phob copi ardystiedig.

Os bu farw’r rhoddwr neu’r atwrnai y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.

Beth fydd yn digwydd i’r Atwrneiaeth Barhaus (EPA) gyfredol

Bydd y Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn canslo’r EPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai yn marw a naill ai:

  • roedd rhaid i’r atwrneiod wneud yr holl benderfyniadau gyda’i gilydd – gelwir hyn yn gweithredu ‘ar y cyd’

  • roedd dim ond un atwrnai

Bydd EPA a ganslwyd yn cael ei dinistrio. Os byddwch yn dymuno i’r OPG ei hanfon yn ôl atoch yn lle hyn, dylech gynnwys nodyn yn gofyn iddi gael ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.

Os bydd atwrnai yn marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain (a elwir yn gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’), bydd yr OPG yn diweddaru’r EPA yn lle ei dinistrio. Bydd rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr EPA.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

Os ydych am roi’r gorau i fod yn atwrnai

Os penderfynwch roi’r gorau i fod yn atwrnai, dylech lenwi ac anfon ffurflen hysbysu a’i hanfon at:

  • y rhoddwr – os nad yw’r EPA wedi cael ei chofrestru
  • y rhoddwr a’r OPG – os yw’r EPA wedi cael ei chofrestru

Dylech hefyd ddweud wrth unrhyw atwrneiod eraill a enwir ar yr EPA.

Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH