Gwirio bod atwrneiaeth barhaus yn gyfreithiol

Gallwch ond defnyddio atwrneiaeth barhaus (EPA) os cafodd ei gwneud yn gywir.

Dylech wirio bod y ffurflen EPA:

  • wedi ei llenwi pan oedd y rhoddwr yn 18 oed o leiaf ac yn gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun (heb golli ‘galluedd meddyliol’)
  • wedi ei llofnodi gan y rhoddwr a thyst nad yw’n un o atwrneiod yr EPA
  • wedi ei llofnodi gan yr atwrneiod i gyd

Pan wnaed yr EPA, roedd yn rhaid i chi ac unrhyw atwrnai arall fod:

  • yn 18+ oed
  • heb fod yn fethdalwr – a heb fod yn fethdalwr ers hynny

Dim ond atwrneiaeth barhaus (EPA) a wnaed ac a lofnodwyd cyn 1 Hydref 2007 y gellir parhau i’w defnyddio. Ar ôl y dyddiad hwnnw roedd yn rhaid i roddwyr wneud atwrneiaeth arhosol (LPA).